´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • ONS - 1,641 o farwolaethau yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â coronafeirws

  • Un o bob tri o'r marwolaethau mewn cartrefi gofal

  • Adroddiadau y bydd y cynllun 'furlough' yn cael ei ymestyn

  • Pryder y bydd prinder sylweddol o feddygon gofal dwys yng Nghymru

  • Elusennau'n poeni fod llai o gymorth ar gael i bobl sy'n dioddef o salwch meddwl

  • Arhoswch adref yw'r neges gan Lywodraeth Cymru o hyd

  • Bwriad i osod arwyddion a hysbysebion i annog pobl o Loegr i beidio dod am dro yma

  1. 1 o bob 3 marwolaeth mewn cartref gofalwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Yn ôl ffigyrau diweddara y Swyddfa Ystadegau (ONS), mae 1,641 o farwolaethau yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â coronafeirws.

    Mae'r ffigyrau wythnosol diweddaraf ar gyfer yr wythnos yn gorffen ar 1 Mai.

    Roedd 281 o farwolaethau yn ystod yr wythnos yn ymwneud â Covid-19 - 30% o'r holl farwolaethau yng Nghymru.

    Roedd un o bob tri o'r marwolaethau mewn cartrefi gofal.

  2. Diogelu pobl hÅ·n rhag camdriniaethwedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Dim gorfodi pobl yn ôl i'w gwaith'wedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Dylai gweithwyr yng Nghymru ddim cael eu gorfodi yn ôl i'w gwaith oherwydd prinder arian, yn ôl un felin drafod.

    Daw sylwadau'r Bevan Foundation cyn i'r Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi beth yw dyfodol cynllun 'furlough' ei lywodraeth.

    "Mae tua chwarter gweithwyr Cymru ar y cynllun, gyda chanran uwch ym meysydd lletygarwch, adeiladau a'r celfyddydau," meddai Dr Victoria Winckler o'r sefydliad.

    Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn talu 80% o gyflogau gweithwyr ar y cynllun, gyda rhai yn dyfalu y gallai hynny ostwng i 60%.

    Dywed Dr Winckler ei bod yn angenrheidiol i gwmnïau dalu gweddill y cyflog, pe bai hynny'n digwydd.

    "Rwy’n credu ei bod yn gwbl angenrheidiol i rwystro pobl rhag gorfod dychwelyd i'w gwaith oherwydd nad ydynt yn gallu byw ar gyflogau llai.

    "Rwy'n credu ei bod yn annerbyniol i bobl ddychwelyd i'w gwaith oherwydd eu bod yn llwgu."

    gweithiwrFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Bywyd yn y Rhonddawedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Wales Online

    Yn ôl ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Rhondda Cynon Taf bellach wedi mynd heibio Caerdydd a Chasnewydd fel yr ardal sydd â mwyafrif o achosion o coronafeirws, o’i gymharu â faint o bobl yn yr ardal.

    Mae'r fwrdeistref wedi gweld 528 o achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl sy'n byw yn y rhanbarth, gyda Merthyr Tudful yn yr ail safle gyda 511.8. Y ffigwr ar gyfer Rhondda Cynon Taf yw'r uchaf yn y DU.

  5. Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsyswedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Angen cymorth ar ysmygwyr beichiog'wedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae grŵp o arbenigwyr meddygol yn galw ar ferched beichiog i ofyn am gymorth er mwn rhoi'r gorau i ysmygu er mwyn diogelu eu hiechyd yn ystod y pandemig.

    Dywed Coleg Brenhinol Obstategwyr a Gynaecolegwyr y byddai rhoi'r gorau i ysmygu hefyd yn help i ddiogelu'r babi yn y groth.

    Er bod y dystiolaeth ddiweddar yn dweud na fydd merched beichiog mewn mwy o risg o effeithiau coronafierws, mae yna gydnabyddiaeth fod ysmygwyr yn ymateb yn wael i'r haint.

    Wrth gyfeirio at y pandemig dywedodd llefarydd ar ran y Coleg ei fod yn "hynod o bwysig fod merched yn cael cefnogaeth i roi'r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd er mwyn diogelu eu hiechyd ac iechyd y babi".

    ysmyguFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Cyngor i weithwyr a chyflogwyrwedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Dim chwaraeon yn Lloegr tan 1 Mehefin o leiafwedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    ´óÏó´«Ã½ Sport

    Ni fydd unrhyw chwaraeon proffesiynol, hyd yn oed y tu ôl i ddrysau caeedig, yn digwydd yn Lloegr tan 1 Mehefin ar y cynharaf.

    Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen ganllaw 50 tudalen sy'n nodi sut y bydd Lloegr yn dechrau lleddfu mesurau cloi.

    Bydd hyn wrth gwrs yn effeithio nifer o Gymry a chlybiau o Gymru sy'n cystadlu dros y ffin mewn gwahanol feysydd.

    Dan JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae seren Cymru, Daniel James yn chwarae i Manchester United yn Uwch Gynghrair Lloegr

  9. Ar Senedd TV heddiwwedi ei gyhoeddi 08:58 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Y Pwyllgor Diwylliant a'r Pwyllgor Deisebau fydd yn fyw ar Senedd TV heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Dros 200 o ddirwyonwedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    golwg360

    Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi pwysleisio mai aros adref yw’r neges yng Nghymru o hyd, wedi iddyn nhw orfod rhoi dros 200 o ddirwyon i bobl oedd yn torri’r rheolau dros benwythnos gŵyl y banc.

    Mae bod 80% o’r dirwyon gafodd eu rhoi rhwng dydd Gwener (8 Mai) a dydd Sul (10 Mai) wedi eu rhoi i ymwelwyr oedd wedi teithio i'r ardal.

    Cafodd dau deulu eu troi yn ôl dros y penwythnos ar ôl teithio 200 milltir, meddai'r heddlu.

  11. Pryder bod y wasg Brydeinig yn 'annog teithio pell'wedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

    Mae Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi bod yn siarad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru bore 'ma.

    "Ry'n ni'n cofio dau fis yn ôl, ar ddechrau hyn, canran sylweddol o'r boblogaeth yn ymweld â'r Parciau Cenedlaethol," meddai.

    "Y pryder yw bod pobl sy'n gwrando ar y wasg Brydeinig yn cael y neges ei bod hi'n iawn i deithio mor bell â phosib i ymarfer corff a bron yn cael eu hannog i wneud hynny.

    "Ond mae'r neges o'r gwasanaethau cyhoeddus, yr heddlu yng Nghymru yn eithaf clir bod yna reolau gwahanol yng Nghymru ac y byddan nhw yn gweithredu.

    "Ry'n ni fel Parciau Cenedlaethol sydd â lleoliadau y mae pobl yn deheu am ymweld â nhw yn cefnogi a datgan y neges eto."

  12. Ymestyn cynllun 'furlough'?wedi ei gyhoeddi 08:37 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Press Association

    Yn ôl y Press Association, mae disgwyl i Ganghellor y DU, Rishi Sunak gyhoeddi estyniad i'r cynllun 'furlough' lle mae Llywodraeth y DU yn rhoi cymhorthdal ​​i gyflogau rhai gweithwyr oherwydd y coronafeirws.

    Ar hyn o bryd mae o leiaf 6.3 miliwn o bobl yn talu hyd at 80% o'u cyflogau gan y trethdalwr o dan y system 'furlough' ar gost o ryw £8 biliwn.

    Mae Mr Sunak wedi dweud o'r blaen ei fod yn paratoi i dynnu gweithwyr a busnesau oddi ar y rhaglen - sy'n rhedeg tan ddiwedd mis Mehefin ar hyn o bryd - yn araf deg.

    Ond mae PA yn adrodd y bydd y rhaglen yn parhau hyd at fis Medi, er y bydd cyfradd y gefnogaeth yn cael ei thorri o uchafswm o 80% o'r cyflog i 60%.

  13. Neges gan y parciau cenedlaetholwedi ei gyhoeddi 08:27 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru.

    Mewn datganiad ar y cyd, dywed y cyrff fod y neges ddiweddaraf yn "atgyfnerthu’r angen i bobl Cymru aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG".

    Yr wythnos hon, dywed yr awdurdodau y byddan nhw'n "ymdrechu’n galed gyda’u partneriaid i sicrhau bod pobl yn derbyn yr wybodaeth gywir".

    Dywedodd Emyr Williams, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Golyga’r mesurau hyn yng Nghymru na gaiff pobl yrru i ymarfer corff yng Nghymru – waeth lle maent yn byw – a bydd meysydd parcio a mynediad i’r safleoedd mwyaf poblogaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod ar gau."

    LlanberisFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Llanberis, yng nghalon Eryri

  14. Gwersi o adrefwedi ei gyhoeddi 08:18 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae gwersi dyddiol ´óÏó´«Ã½ Bitesize yn cynnig cymorth i rieni a phlant sydd am barhau gyda'u haddysg o adref. Dyma'r pynciau am heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:14 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Diolch am ymuno efo ni bore 'ma. Arhoswch efo ni i gael pytiau o newyddion am y pandemig drwy gydol y dydd.