大象传媒

Crynodeb

  • Ar 么l bod yn absennol yr wythnos ddiwethaf i gwrdd 芒 Nicola Sturgeon, mae Mark Drakeford yn ateb cwestiynau gan ASau.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch 芒 ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcr谩in heno, fel arwydd o undod 芒 hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Dim galwad ff么n nac e-bost gan y Prif Weinidog Liz Truss'wedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Dywed Mark Drakeford, "Dwi ddim wedi clywed dim byd oddi wrth y prif weinidog newydd, dim galwad ff么n, dwi ddim wedi cael e-bost - dim byd o gwbl."

    Liz Truss a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, get
  3. Effaith Covid ar y GIGwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Dywed y prif weinidog 鈥渕ae鈥檙 GIG yn parhau i orfod delio ag effaith Covid, gydag ychydig llai na 1,000 o aelodau staff ddim yn y gwaith heddiw; mae tua 600-700 ohonyn nhw鈥檔 s芒l gyda Covid eu hunain ac mae tua 300 ohonyn nhw ddim mewn gwaith oherwydd maen nhw wedi bod mewn cysylltiad 芒 rhywun gyda Covid. Mae hynny i gyd yn digwydd ar fyr rybudd, a phan fyddwch chi'n delio 芒 1,000, mae anallu sydyn pobl i fod yn y gweithle yn ddi-os yn gwneud y busnes o reoli'r gweithlu, a'r effaith ar gleifion, yn her".

    CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. '135 o flynyddoedd i Lywodraeth Cymru inswleiddio pob cartref sy鈥檔 dioddef tlodi tanwydd'wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Mae Jane Dodds o鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol yn cwestiynu record Llywodraeth Cymru ar raglenni insiwleiddio cartrefi, gan nodi ar y gyfradd bresennol y gallai gymryd 135 o flynyddoedd i inswleiddio pob cartref sy鈥檔 dioddef tlodi tanwydd.

    Mae鈥檙 prif weinidog yn ateb, 鈥淢ae wastad wedi bod yn her i鈥檙 rhaglen Cartrefi Clyd i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o insiwleiddio eiddo nad oes ganddyn nhw鈥檙 nodweddion sydd gan y rhan fwyaf o eiddo lle gallwch chi inswleiddio waliau ceudod ac ati. Rydym wrthi yn ailgynllunio鈥檙 rhaglen Cartrefi Clyd, byddwn yn chwilio鈥檔 fuan am y rownd nesaf o geisiadau gan bobl a fydd yn cyflwyno鈥檙 rhaglen honno ar lawr gwlad.鈥

    Jane Dodds
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Jane Dodds

    inswleiddioFfynhonnell y llun, PA Media
  5. Argyfwng costau bywwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Mae Cefin Campbell o Blaid Cymru yn galw am "gefnogaeth ddigonol i gartrefi gwledig ar draws canolbarth a gorllewin Cymru wrth iddynt wynebu heriau'r argyfwng costau byw", yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar ddefnyddio tanwydd nad yw ar y grid.

    Dywed y prif weinidog bod "Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros 拢1.6 biliwn eleni mewn cymorth wedi'i dargedu ar gyfer costau byw a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn 么l ym mhocedi pobl ac i helpu i leddfu'r argyfwng hwn. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cymorth i'r rhai nad ydynt ar y grid nwy i brynu LPG neu olew mewn swmp."

    Cwsmeriaid olew gwresogi cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Galw am rewi rhenti dros y gaeafwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw eto ar Lywodraeth Cymru i rewi rhenti a chyflwyno gwaharddiad ar droi allan dros y gaeaf a fyddai, meddai, yn amddiffyn miloedd o bobl rhag costau tai cynyddol.

    Mae'r prif weinidog yn ateb y bydd yn edrych yn ofalus ar gynigion gan Lywodraeth yr Alban, ond mae'n rhybuddio yn erbyn "canlyniadau anfwriadol" o ran landlordiaid yn cymryd tai i'w rhentu oddi ar y farchnad.

    Mae ffigyrau gan Zoopla yn awgrymu bod rhenti cyfartalog wedi codi 12.3% i 拢750 yn y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf diwethaf.

    Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai鈥檔 rhewi鈥檙 鈥渞han fwyaf o renti鈥 tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr 芒 鈥渕oratoriwm chwe mis ar droi allan鈥.

    Dywed Adam Price: "Gallai鈥檙 gaeaf hwn fod yr un anoddaf a gofnodwyd erioed, yn wyneb costau cynyddol a chyflogau yn aros yn yr unfan. Gwelodd Plaid Cymru hyn yn dod. [Mae] Llywodraeth yr Alban eisoes wedi gweithredu 鈥 gyda llaw, yn dilyn ymgyrch gan Lafur yn yr Alban.

    鈥淧a dystiolaeth bellach sydd ei hangen [ar Lywodraeth Cymru] i鈥檞 darbwyllo mai atal digartrefedd yn ystod y gaeaf yw鈥檙 ffordd gywir o weithredu?

    鈥淩haid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio鈥檙 holl arfau yn ei meddiant i warchod ein mwyaf bregus dros y gaeaf 鈥 trwy gyhoeddi y byddan nhw鈥檔 rhewi pob rhent a thrwy wahardd pob achos o droi allan nawr.鈥

    Dywed Mr Drakeford nad yw deddfwriaeth yr Alban "yn cynnwys unrhyw un sy'n cymryd tenantiaeth [newydd], ac ar gyfer tenantiaethau presennol mae yna gyfres gyfan o ffyrdd y bydd eu rhent yn gallu codi beth bynnag".

    Tai
  7. Ymchwiliad Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw eto am ymchwiliad i Gymru yn unig.

    Mae Mr Davies yn gofyn i'r prif weinidog pam ei fod yn rhwystro ymchwiliad Cymreig pan oedd Nicola Sturgeon wedi cytuno i ymchwiliad o'r fath yn yr Alban.

    Mae'r prif weinidog yn ateb mai "y ffordd orau o sicrhau atebion yw drwy gyfranogiad Cymru mewn ymchwiliad DU gyfan".

    Mae'n dweud wrth Mr Davies nad oedd ymchwiliad sy'n canolbwyntio ar Gymru yn unig "yn mynd i ddigwydd" ac mae'n pwysleisio "na fydd ymchwiliad o'r fath yma yng Nghymru".

    Mae鈥檙 prif weinidog yn croesawu y bydd teuluoedd o Gymru a gollodd anwyliaid i Covid-19 yn cael eu cydnabod yn gyfranwyr craidd yn yr ymchwiliad swyddogol i'r pandemig.

    Mae gwrandawiadau cychwynnol yr ymchwiliad wedi dechrau yn Llundain ddydd Mawrth.

    Covid
    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Andrew RT Davies

  8. 'Ehangu anghydraddoldeb'wedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Mae'r prif weinidog yn rhybuddio y bydd "y newidiadau treth heb eu hariannu yn y datganiad cyllidol yn ehangu anghydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig".

    Dywed bod Llywodraeth y DU "yn credu mewn ailddosbarthu; mae'n credu mewn cymryd arian oddi ar y tlawd a'i roi i'r cyfoethog".

  9. 'Hyrwyddo e-sigarennau'wedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Mae'r Ceidwadwr Natasha Asghar yn galw ar Lywodraeth Cymru i "helpu i hyrwyddo e-sigarennau i annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau i ysmygu".

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu "adolygiad ar sail tystiolaeth o'r defnydd o e-sigar茅ts yng Nghymru".

    Fodd bynnag, ychwanega, "lle mae e-sigar茅ts yn arwain at bobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio tybaco, yna, yn ddiamau, mae e-sigar茅ts yn llai niweidiol na sigar茅ts confensiynol. Yn anffodus, y dystiolaeth yw bod y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio e-sigar茅t yn ogystal ag, nid yn lle, sigar茅t gonfensiynol. Mae wyth deg pump y cant mewn astudiaethau diweddar yn ddefnydd deuol, ac nid yw defnydd deuol, mae arnaf ofn, yn dileu'r niwed a ddaw yn sgil ysmygu sigar茅ts confensiynol."

    e-sigarennauFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 4 Hydref 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o bumed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Yr wythnos ddiwethaf, pan atebodd y Trefnydd Lesley Griffiths gwestiynau ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford, atebodd hi 10 cwestiwn mewn 45 munud. 鈥淒a iawn鈥 ymatebodd y Llywydd Elin Jones, a awgrymodd fod y Trefnydd yn rhoi 鈥渢iwtorial i鈥檙 Cabinet ar sut i roi atebion cryno mewn cwestiynau llafar鈥. A fydd y prif weinidog wedi cymryd yr awgrym?

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Cyfarfu Mark Drakeford 芒 Nicola Sturgeon yng Nghaeredin ddydd Mawrth diwethafFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Cyfarfu Mark Drakeford 芒 Nicola Sturgeon yng Nghaeredin ddydd Mawrth diwethaf

    Y Llywydd Elin Jones
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Y Llywydd Elin Jones