´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • Y Prif Ddramodydd yw Cai Llewelyn Evans

  • Mas ar y Maes yn bump oed

  • Paratoi ar gyfer Gig y Pafiliwn

  • Dathlu cyfraniad Penri Jones - awdur Jabas a chyd-sylfaenydd Lol

  1. Mae'n dawel ar y maes carafanau...wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Deffrwch bobl, mae'n ddiwrnod braf 😎

    Maes carafanau
  2. Awydd ‘chydig bach o opera?wedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Ar Lwyfan y Maes am 12:00 bydd rhai o gantorion opera mwyaf blaenllaw Cymru yn perfformio rhaglen o glasuron operatig, gyda chwmni OPRA Cymru.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.
    Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  3. Diffyg perfformiad drama fuddugol yn destun 'siom'wedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Gruffydd Sion Ywain

    Fe enillodd Gruffydd Siôn Ywain y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Tregaron y llynedd.

    Ond eleni, mae wedi datgan ei siom bod ei ddrama fuddugol "Nyth" dal heb ei chyflwyno yn ei chyfanrwydd.

    Hon oedd ei ddrama gyntaf, ac mae'n dweud ei fod wedi gobeithio y byddai cyfle i'w datblygu a'i gweld ar lwyfan.

    Gruffydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Gruffydd oedd enillydd y Fedal Ddrama y llynedd

    "Y peth am theatr yw bod o ddim wir yn dod yn fyw tan i chi glywed y geiriau yn dod allan o gegau actorion, ac yn cael ei ddehongli," dywedodd.

    Mewn ymateb fe ddywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol mai "potensial yn hytrach na sicrwydd i'w datblygu ymhellach" sy'n cael ei wobrwyo, ac mai "dewis y cwmnïau proffesiynol yw penderfynu a fyddai'r gwaith yn gweddu eu rhaglenni gwaith".

    Darllenwch ragor yma.

  4. Fuoch chi'n gwylio Cracharela neithiwr?wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Ail noson Cracharela - gan griw Cabarela - oedd yn y Pafiliwn Mawr neithiwr.

    Roedd y tocynnau wedi gwerthu'n llwyr ers fis Mehefin!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Al Hughes a'i griw yn barod i ddarlledu...wedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru

    Criw Al Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    ...ond yn gyntaf, coffi!

  6. Mae'n fore godidog ar y maes!wedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Maes fore Iau
    Eisteddfod
  7. Bore da a chroeso i'r llif byw o Foduan!wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae'n ddydd Iau! Croeso 'nôl i lif byw Cymru Fyw o'r Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae 'na ddigon i ddod eto heddiw, gan gynnwys y prif seremoni sef y Fedal Ddrama, nodi pen-blwydd Mas ar y Maes yn bump oed, a pharatoi ar gyfer Gig y Pafiliwn!

    Dilynwch y cyfan gyda ni, fe fyddai'n braf iawn cael eich cwmni 😎🎪

    Noa o Lanbedrog
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gafodd Noa o Lanbedrog ddydd Mercher gwych ar y maes