大象传媒

Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, ychydig cyn y diweddariad ar sefyllfa ariannol y llywodraeth.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 17 Hydref 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn 鈥渁dlewyrchu鈥檙 teimlad bod ymosodiadau o鈥檙 fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae鈥檔 destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu鈥檙 tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod 芒 phawb sy鈥檔 dioddef o ganlyniad i鈥檙 ymosodiadau.鈥

    Senedd
  2. Adeiladu taiwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 17 Hydref 2023

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Mark Drakeford

    Mae'r prif weinidog a'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn cyfnewid ystadegau ar dargedau adeiladu tai.

    鈥淭ri degawd o Lafur Cymru, a鈥檙 hyn sydd gennym ni yw targedau adeiladu tai yn cael eu methu鈥檔 gyson,鈥 meddai hithau.

    Dywed y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w chynlluniau "uchelgeisiol" i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yng Nghymru erbyn 2026, "wedi'i ategu gan y lefelau uchaf erioed o gyllid - bron i 拢1.2 biliwn dros bedair blynedd gyntaf tymor y Senedd hwn".

    TaiFfynhonnell y llun, PA Media
  3. Amseroedd aros unedau bryswedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 17 Hydref 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn dweud bod ymateb Llywodraeth Cymru i honiadau gan Goleg Brenhinol y Meddygon Brys bod amseroedd aros unedau brys yng Nghymru wedi鈥檜 tan-gyfrif am ddegawd, wedi bod yn "hollol annigonol".

    鈥淢ae Llywodraeth Cymru wedi newid ei stori deirgwaith, gyda hyder y cyhoedd yn ei gallu i redeg ein gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol yn lleihau gyda phob drafft,鈥 meddai.

    Yn 么l y coleg, mae miloedd o gleifion "ar goll" o ystadegau sy鈥檔 mesur perfformiad unedau brys.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y coleg brenhinol wedi 鈥渃odi mater tan-gyfrif adrannau damweiniau ac achosion brys yn aml gyda gweinidogion a swyddogion鈥.

    Mae Mr Drakeford yn ateb nad yw Llywodraeth Cymru wedi tan-gyfrif y ffigyrau.

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Rhun ap Iorwerth

  4. Canser yr ysgyfaintwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 17 Hydref 2023

    Yn 么l Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, mae sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru ar ei h么l hi o'r datblygiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr.

    Mae鈥檔 dweud bod ymrwymiad wedi鈥檌 wneud yn Lloegr i gyrraedd 40% o鈥檙 boblogaeth erbyn 2025, a 100% erbyn 2030.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU - ar gyfer sgrinio ysgyfaint wedi'i dargedu - a'i bod yn ystyried sut y gellid cyflawni hyn yng Nghymru.

    Mae'r elusen Tenovus wedi helpu i ariannu cynllun peilot i sgrinio 500 o gleifion mewn un ardal, gogledd y Rhondda.

    Mae pobl rhwng 60-74 oed a oedd yn arfer ysmygu, neu sy'n dal i wneud, wedi cael gwahoddiad i gael sgan CT.

    Mae Mark Drakeford hefyd yn mynnu nad yw amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wedi cael eu tan-gyfrif ac y gellir eu cymharu 芒 Lloegr.

    Cyfeiriodd Andrew RT Davies at wybodaeth a gyhoeddwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygon Brys, oedd yn awgrymu nad oedd 45,000 o gleifion wedi cael eu cyfrif mewn data a gyhoeddwyd rhwng Ionawr a Mehefin.

    Dywed Mr Drakeford: 鈥淥s bu unrhyw gamddealltwriaeth o鈥檙 data nid yw鈥檙 camddealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru.

    "Mae鈥檙 data yr ydym yn adrodd arnynt yn gymaradwy 芒 data a adroddwyd mewn mannau eraill fel yr ydym bob amser wedi鈥檌 ddweud.鈥

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Andrew RT Davies

  5. Teuluoedd 芒 phlant mewn tlodiwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 17 Hydref 2023

    Yng Nghymru a Lloegr, mae plant 4 i 16 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydynt yn byw ar aelwyd sy鈥檔 cael budd-daliadau sy鈥檔 gysylltiedig ag incwm ac sydd ag incwm blynyddol o lai na 拢7,400 ar 么l treth, heb gynnwys taliadau lles.

    Meddai Sioned Williams o Blaid Cymru: "Mae'r trothwy yma'n golygu bod miloedd o blant sy'n dod o deuluoedd o incwm digon isel i fod yn gymwys ar gyfer credyd cynhwysol, ond sydd ddim yn gymwys am gymorth trosiannol, yn colli mas, a'r trothwy hefyd yn gweithredu fel trap tlodi ar gyfer teuluoedd. Ydych chi'n cytuno, brif weinidog, y byddai dileu'r trothwy yn rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd y bydd eu plant yn gallu cael cinio am ddim ar 么l i'r credyd cynhwysol gael ei rowlio mas i bawb, a phan ddaw'r cyfnod trosiannol i ben, ac yn lleihau costau a chynyddu incwm i deuluoedd?"

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael 芒 thlodi plant gyda pholis茂au y cytunwyd arnynt yn y cytundeb cydweithredu 芒 Phlaid Cymru.

    Meddai ef, "os bydd y cyllidebau gyda ni yn y dyfodol, mae nifer fawr o bethau roeddem ni eisiau eu gwneud i helpu teuluoedd, yn enwedig ble mae plant yn byw mewn tlodi. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n canolbwyntio ar beth rydyn ni'n cytuno i'w wneud yn y tymor hwn."

    Sioned Williams
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Sioned Williams

  6. Ailgylchu yn y gweithlewedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 17 Hydref 2023

    Mae'r Ceidwadwr James Evans yn gofyn am ddiweddariad ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle. Mae'n dweud bod nifer o fusnesau yn ei etholaeth yn poeni am y newidiadau.

    Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle ddidoli deunyddiau ailgylchadwy, yn yr un modd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi yn gwneud nawr. Bydd yn dod yn gyfraith o 6 Ebrill 2024 ymlaen, yn amodol ar ewyllys y Senedd, ac os na fyddwch yn cydymffurfio gallech wynebu dirwy.

    Bydd angen didoli鈥檙 deunyddiau canlynol cyn iddyn nhw gael eu casglu, a鈥檜 casglu ar wah芒n:

    1. bwyd ar gyfer eiddo sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos
    2. papur a chardfwrdd
    3. gwydr
    4. metel, plastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg
    5. cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu
    6. tecstilau heb eu gwerthu

    Bydd y canlynol hefyd yn cael eu gwahardd:

    • Taflu gwastraff bwyd i garthffosydd
    • Anfon rhai mathau o wastraff a gesglir ar wah芒n a phob math o wastraff pren i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd y newidiadau yn gwella ansawdd a maint y ffordd yr ydym yn casglu ac yn gwahanu gwastraff, a'i fod yn "eithaf sicr y bydd busnesau yn addasu i'r rheoliadau newydd oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r rheoliadau newydd yn dda i fusnesau hefyd." .

    AilgylchuFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  7. Croesowedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 17 Hydref 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.