大象传媒

Crynodeb

  • Vaughan Gething yn ateb cwestiynau am yr ail dro fel Prif Weinidog Cymru.

  • Mr Gething yn cael ei orfodi i amddiffyn rhoddion o 拢200,000 - gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog yn flaenorol o waredu gwastraff yn anghyfreithlon - am yr ail wythnos yn olynol yn y Senedd.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am yr eildro fel prif weinidog.

    Ymunwch 芒 ni eto yr wythnos nesaf.

  2. Rhestr aros ganolog ar gyfer deintyddiaeth y GIGwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am "restr aros ganolog ar gyfer deintyddiaeth y GIG, sy'n gwneud yn si诺r eich bod chi'n gwybod beth yw'r galw, eich bod chi'n gwybod beth yw'r angen ac felly rydych chi'n gallu ymateb".

    Mae Mr Gething yn ateb "dyna lle mae Llywodraeth Cymru eisiau cyrraedd".

    Ychwanegodd, "mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad 芒 mi yn rheolaidd am yr angen i sicrhau bod gennym fwy o fuddsoddiad yn ein systemau digidol a data o fewn y GIG fel eu bod yn addas i'r diben.

    "Gallant helpu'r ddau berson, yr ymarferwyr ond hefyd y person unigol, i gymryd rhan yn eu triniaeth a鈥檜 gofal eu hunain ac i ddeall lle mae鈥檙 cyfleoedd hynny鈥檔 bodoli i wneud yn well鈥.

    Jane Dodds
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Jane Dodds

  3. Yr argyfwng parhaus yn y Dwyrain Canolwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd yn ystyried beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu pobol sydd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng parhaus yn y Dwyrain Canol.

    Meddai, "rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun yn fy etholaeth fy hun fod gennyf deuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ar bob ochr i'r gwrthdaro. Felly, nid mater sydd wedi digwydd yn rhywle arall yn unig yw hwn. Mae yna effaith wirioneddol mewn cymunedau ar draws ein gwlad ein hunain, a dyna pam mae angen i ni barhau i gymryd diddordeb; hyd yn oed os nad ydym yn gwneud penderfyniadau yn y gwrthdaro, mae鈥檔 rhaid i ni ddelio 芒 chanlyniad yr hyn sy鈥檔 digwydd a chefnogi ein dinasyddion ein hunain yn briodol.鈥

    Vaughan Gething
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Vaughan Gething

  4. 'Angen ymchwiliad annibynnol i'r rhodd'wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Dywed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y ffrae dros benderfyniad Vaughan Gething i gymryd 拢200,000 gan gwmni gwastraff dadleuol wedi ei ddwysau gan y datguddiad bod arno ddyled o 拢400,000 i Fanc Datblygu Cymru sy鈥檔 eiddo i Lywodraeth Cymru.

    Fe wnaeth Banc Datblygu Cymru fenthyg 拢400,000 i un o is-gwmn茂au Dauson, Neal Soil Suppliers, ym mis Chwefror 2023 i brynu fferm solar.

    Mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r rhodd gan Dauson Environmental Group i Mr Gething ar gyfer ei ymgyrch lwyddiannus i ddod yn arweinydd Llafur Cymru.

    Mae'n gofyn i Mr Gething a oedd wedi cwestiynu o ble y daeth yr arian.

    鈥淎 ofynnodd y prif weinidog o bwy yr oedd, a gafodd wybod am orffennol troseddol y rhoddwr a dweud nad oes ots - fe gymeraf yr arian beth bynnag - ac os felly mae hynny鈥檔 codi cwestiynau sylfaenol.

    鈥淣eu ai er gwaethaf maint y rhodd hon, nid oedd yn meddwl gofyn am ddiwydrwydd dyladwy. Byddai hynny eto yn farn wael iawn.鈥

    Dywed Mr Gething fod 鈥測r holl ddiwydrwydd dyladwy wedi鈥檌 wneud ynghylch a oedd hwn yn rhoddwr a ganiateir y gellid derbyn arian ganddo.鈥

    Ychwanegodd fod prosesau ar waith i sicrhau na all ymgeiswyr yn yr etholiad arweinyddiaeth wneud dewisiadau am fusnesau rhoddwyr.

    Dywed Mr ap Iorwerth fod Mr Gething wedi s么n am fod eisiau arwain gwlad 鈥渓lawn gobaith, uchelgais ac undod鈥.

    鈥淣i all hyd yn oed uno ei blaid ei hun ynghylch a oedd yn iawn ai peidio.鈥

    Dywed Mr Gething fod pwyllgor gwaith Llafur Cymru 鈥 swyddogion y blaid a gytunodd ar yr adolygiad gan y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones 鈥 鈥渨edi bod yn unedig iawn鈥.

    Pan ofynnwyd iddo gan arweinydd Plaid Cymru a fyddai鈥檔 ymrwymo i wneud y canfyddiadau鈥檔 gyhoeddus, dywedodd Mr Gething nad oedd ganddo 鈥渄dim amheuaeth o gwbl鈥 y bydd adolygiad Carwyn Jones 鈥測n y parth cyhoeddus鈥.

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Rhun ap Iorwerth

  5. Y rhodd o 拢200,000wedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Andrew RT Davies

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at weinidog economi Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles yn dweud na fyddai wedi derbyn rhodd o 拢200,000 a roddwyd i Vaughan Gething yn ystod eu hymgyrchoedd i fod yn brif weinidog.

    Mae Mr Davies yn gofyn a oedd yna wahaniaeth mewn egwyddor rhyngddo fe a Jeremy Miles.

    鈥淒w i ddim yn meddwl bod 鈥榥a wahaniaeth mewn egwyddor o gwbl,鈥 meddai Mr Gething wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

    Dywedodd fod yr holl roddion wedi鈥檜 cofrestru a鈥檜 cofnodi, a dywedodd fod pwyllgor gwaith Llafur Cymru wedi cael 鈥渃yfarfod cyt没n a chadarnhaol iawn鈥 pan wnaethon nhw gytuno ar adolygiad o reolau ymgyrch yr arweinyddiaeth.

    Dywedodd Mr Davies y byddai 鈥減erson rhesymol鈥 yn dweud bod yna wrthdaro buddiannau posib yno鈥.

    Ond dywedodd Mr Gething y bydd gan 鈥渂erson rhesymol ddiddordeb yn y ffeithiau鈥 鈥 gan ddweud bod Banc Datblygu Cymru yn gwneud penderfyniadau 鈥渉ollol annibynnol ar Lywodraeth Cymru鈥.

    Dywed Mr Davies ei fod yn cael "effaith andwyol ar y llywodraeth" ac mae'n galw am ymchwiliad llawn, annibynnol i fynd i'r afael 芒'r pryderon am gyllid ei ymgyrch.

    Mae Mr Gething wedi cyhoeddi y bydd y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones yn cadeirio adolygiad o ymgyrchoedd arweinyddiaeth gan gynnwys cyllid ymgyrchu.

    Derbyniodd Mr Gething 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

    Cafodd David Neal ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.

    Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei erlyn eto am beidio 芒 chael gwared arno.

    Daethpwyd o hyd i bentyrrau mawr o wastraff heb ei reoleiddio ar hen dir fferm David Neal ar Wastadeddau GwentFfynhonnell y llun, CYFOETH NATURIOL CYMRU
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Daethpwyd o hyd i bentyrrau mawr o wastraff heb ei reoleiddio ar hen dir fferm David Neal ar Wastadeddau Gwent

  6. Y sefyllfa yn Gazawedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn gofyn "beth mae'r llywodraeth yn ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa yn Gaza yn effeithio arnynt?"

    Mae'r prif weinidog yn ailadrodd galwadau am gadoediad ar unwaith.

    Mae'n dweud "mae gweinidogion a chydweithwyr yn y cabinet wedi cyfarfod ag arweinwyr Iddewig a Mwslimaidd ac aelodau o'r gymuned ers dechrau rhyfel Israel-Gaza. Rydym yn parhau i gydymdeimlo 芒'r holl bobl hynny y mae'r argyfwng presennol yn effeithio arnynt.

    "Byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw ddioddefwyr troseddau casineb trwy ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru."

    Dywed Peredur Owen Griffiths "yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad yn y Senedd, clywsom gan Mr a Mrs Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr, y lladdwyd eu merch a'u hwyresau gan Hamas ar 7 Hydref. Dywedasant nad oedden nhw wedi clywed gan unrhyw un o Lywodraeth Cymru ers colli eu hanwyliaid.

    "Hoffwn wybod a yw'r un peth yn wir am bob dinesydd Cymreig sydd wedi colli perthnasau yn y rhanbarth yn ystod y chwe mis a hanner diwethaf o wrthdaro gwaedlyd".

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Rydyn ni'n siarad am gymorth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd... mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yr ydym eisiau agwedd fwy hael tuag at bobl sy鈥檔 ceisio lloches, pobl sy鈥檔 ffoi rhag rhyfeloedd, ac am wasanaeth aduniad teuluol priodol鈥.

  7. Gwasanaethau cyswllt toresgyrnwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Mae Natasha Asghar o'r blaid Geidwadol yn gofyn am ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar draws byrddau iechyd yng Nghymru.

    Ar ddechrau 2022, ymchwiliodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn.

    Dangosodd y data hyn, meddai'r llywodraeth ar y pryd, "amrywiad sylweddol a lle i wella".

    Ym mis Chwefror 2023, gwnaeth y gweinidog iechyd Eluned Morgan "ymrwymiad i gyflawni gwasanaethau cyswllt toresgyrn cant y cant ar gyfer pob bwrdd iechyd , ac i gryfhau鈥檙 mandad i gefnogi鈥檙 gwaith o ddatblygu gwasanaethau yn y maes hwn. Rwy鈥檔 disgwyl i fyrddau iechyd gyflawni cant y cant erbyn mis Medi 2024."

    Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn dweud bod "cynnydd da" ar gyflawni'r ymrwymiad hwnnw, ond mae Natasha Asghar yn dweud "ei bod hi'n edrych yn fwyfwy annhebygol y bydd y targed yn cael ei gyrraedd".

    Mae gwasanaeth cyswllt toresgyrn yn sicrhau bod cleifion 50 oed a h欧n sydd wedi torri asgwrn ar 么l cwympo yn cael gwiriad o iechyd eu hesgyrn a鈥檜 risg o gwympo, a bod hyn yn cael ei reoli er mwyn lleihau鈥檙 risg o dorri asgwrn eto.

    Natasha Asghar
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Natasha Asghar

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm 鈥 ail sesiwn Vaughan Gething yn y swydd.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.