Alun Michael: Gwadu ochri gyda'r heddlu yn ei r么l
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwleidydd Alun Michael yn rhoi'r gorau i'w r么l fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ddydd Mercher.
Wrth siarad ar raglen Bore Sul, fe wrthododd feirniadaeth ei fod wedi bod yn rhy agos i'r heddlu wrth ymgymryd 芒'i r么l.
Ei ddirprwy, Emma Woods, sydd wedi ei hethol i'w olynu.
Gydag ond 16.58% o'r boblogaeth wedi pleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ddydd Iau diwethaf, dywedodd nad "cwestiwn o ddiddordeb" oedd y rheswm, ond mai "diffyg gwybodaeth" yw'r broblem.
Dywedodd mai "cyfrifoldeb y Llywodraeth ydi o i roi gwybodaeth am y swydd".
Ond wrth i'w gyfnod yn y r么l ddirwyn i ben, dywedodd mai "anwiredd" yw'r feirniadaeth ei fod wedi bod yn rhy agos at yr heddlu yn hytrach na goruchwylio eu gwaith.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod Y Comisiwn Etholiadol wedi cynnal ymgyrch gyfathrebu genedlaethol yng Nghymru a Lloegr ar draws pob sianel i godi ymwybyddiaeth am yr etholiadau.
Y llu wedi 'deall a dysgu gwersi'
Fe gyfeiriodd at achosion o drais ym Mayhill, Abertawe (Mai 2021) ac yn Nhrel谩i (Mai 2023) gan ddweud fod yr "heddlu wedi deall a dysgu gwersi o be ddigwyddodd yn Abertawe" ac wedi ymateb yn "wahanol" erbyn achos Trel谩i.
"Dyna'r cwestiwn mawr, pan mae pethau yn mynd o'i le, ydi'r challenge yn cael ei rhoi gan y Comisiynydd i'r Prif Gwnstabl".
Ychwanegodd ei fod yn "teimlo'n hyderus iawn yn y ffordd yr ydym yn ymateb yn ne Cymru".
Dywedodd mai'r peth pwysicaf am y r么l yw'r "cydweithio gyda'r heddlu i gael cysylltiad gyda chymunedau".
Emma Wools, dirprwy presennol Alun Michael, fydd yn ei olynu gan dderbyn 73,128 o bleidleisiau yn yr etholiad yr wythnos ddiwethaf.
Mae hi'n un o ddwy fenyw i gael eu hethol - Jane Mudd yw'r llall.
Ms Wools yw'r fenyw ddu gyntaf i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd.
Dywedodd Alun Michael ei fod yn "hyderus iawn o'r ffordd y bydd hi'n cymryd y swydd".
"Mae hi wedi gweithio fel dirprwy am saith mlynedd r诺an, yn alluog iawn a gyda syniad o beth i wneud gyda'r swydd".
25 mlynedd ers datganoli
Ddydd Mawrth, fydd hi'n 25 mlynedd ers cyfarfod cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, Senedd Cymru erbyn hyn.
Alun Michael oedd yn Brif Ysgrifennydd, fel roedd y teitl ar y pryd.
Wrth edrych yn 么l, fe ddisgrifiodd y cyfnod fel un "anodd iawn".
Aeth ymlaen i ddweud fod "pethau wedi eu sefydlu yn y ffordd wrong o'r dechrau, roedd y Senedd wedi ei sefydlu fel rhyw fath o Gyngor Sir mawr a ddim gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth a'r Senedd, ond fe ddaru hwnna newid yn 2006 gyda newid yn y gyfraith i wahanu'r ddau".