大象传媒

'Nyrs wedi dal Covid-19 yn y gwaith', medd cwest

Leilani MedelFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Leilani Medel 10 diwrnod ar 么l cael ei rhuthro i鈥檙 ysbyty ym mis Ebrill 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae'n debyg i nyrs asiantaeth farw wedi iddi ddal Covid yn y gwaith ar ddechrau'r pandemig, mae cwest i'w marwolaeth wedi clywed.

Credir mai Leilani Medel, 41, oedd un o'r gweithwyr iechyd cyntaf i farw gyda Covid-19 yng Nghymru.

Bu farw ar 9 Ebrill 2020, 10 diwrnod wedi iddi gael ei derbyn i'r ysbyty.

Dywedodd Mr David Regar, dirprwy grwner canol de Cymru ei fod yn debyg iddi ddal Covid tra'n gweithio yng nghartref gofal Anwen ym Mhen-y-bont.

Daeth y crwner i gasgliad naratif, gan ddweud nad oedd hi'n bosib iddo roi achos ei marwolaeth fel afiechyd diwydiannol.

Dywedodd "ar falans" fod Mrs Medel yn "debyg o fod wedi dal y feirws pan roedd cleifion wedi anadlu allan gronynnau mewn ystafelloedd heb eu hawyru", ond ychwanegodd nad oedd casgliad o "afiechyd diwydiannol yn briodol yn yr achos yma".

"Rwy'n fodlon fod Leilani wedi cael Covid-19 tra'n gweithio yng nghartref gofal Anwen," meddai, ond ychwanegodd y byddai'n "straen ar y dystiolaeth i fynd ymhellach na hynny".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mr Medel hefyd angen cymorth peiriant anadlu ar 么l dal Covid, ond bu iddo oroesi

Yn cyfeirio at ei g诺r, Johnny Medel, dywedodd: "Rydych chi wedi ymddwyn gydag urddas ac mae'n flin gennyf am yr effaith arnoch chi a'ch teulu."

Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru yn dilyn y dyfarniad fe ddywedodd Mr Medel: "Mae'n teimlo'n iawn i wybod fod y cwestiwn mawr am le ddaliodd fy ngwraig coronafeirws.

"Roeddwn wedi dweud ers y diwrnod cyntaf ei bod wedi ei ddal o'r gwaith.

"O'r diwedd gallaf orwedd fy ngwraig i orffwys nawr ac mae fy holl gwestiynau wedi eu hateb.

"Wna'i byth mo'i anghofio".