大象传媒

'Torcalon' Wynne Evans wedi 'j么c fewnol' Strictly

Katya Jones a Wynne Evans yn dawnsio'r tango ar raglen Strictly Come Dancing nos SadwrnFfynhonnell y llun, Guy Levy/大象传媒/PA Wire
  • Cyhoeddwyd

Mae Wynne Evans yn dweud bod sylwadau negyddol dros y penwythnos ynghylch ei ymddygiad at ei bartner dawnsio proffesiynol Katya Jones yn rhaglen Strictly Come Dancing y 大象传媒 wedi bod yn "dorcalonnus".

Roedd y darlledwr a'r canwr opera yn ymateb wedi i wylwyr awgrymu bod yna eiliadau o annifyrrwch rhwng y ddau yn ystod rhaglen nos Sadwrn.

Roedd yn ymddangos bod Jones wedi gwrthod ymateb i high-five gan Evans, a'i bod ar achlysur arall wedi symud ei law o'i chanol.

Mae'r p芒r eisoes wedi mynnu mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol bod gwrthod high-five wedi bod yn "j么c" rhyngddyn ers dechrau'r gyfres.

Ac mae Jones wedi dweud mai "nonsens" yw awgrym bod Evans wedi gwneud iddi "deimlo'n anghyfforddus neu fy mhechu mewn unrhyw ffordd".

Dywedodd Wynne Evans ei hun wrth 大象传媒 Radio Wales ddydd Llun: "Rwy' mo'yn cario 'mlaen i ddawnsio - rwy' mo'yn i bobl barhau i'n cefnogi."

Dywedodd llefarydd ar ran y 大象传媒 bod "t卯m lles wedi cysylltu 芒'r ddau a does dim bwriad i gymryd camau pellach".

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Studios
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe welodd gwylwyr Strictly Come Dancing Katya Jones yn gwrthod 'high five' Wynne Evans yn ystod rhaglen nos Sadwrn

Fe fu Evans yn trafod y sefyllfa gyda Radio Wales Breakfast ddydd Llun cyn cyflwyno ei raglen foreol am 09:00.

"Rwy' wedi bod yn hollol dorcalonnus oherwydd y pethau sydd wedi eu hysgrifennu amdana'i yn y diwrnod diwethaf," dywedodd. "Dyw e ddim yn neis i fyw drwy'r amser yna.

"Mae Katya a finnau yn agos iawn, iawn a ni'n ffrindiau gwirioneddol dda. Nos Sadwrn wnaethon ni j么c wirion - roedd yn j么c wirion a aeth o chwith.

"Roedden ni'n meddwl bod e'n ddoniol. Doedd e ddim yn ddoniol [ond] roedd yn cael ei gamddehongli'n llwyr.

"Mae popeth ar socials Katya. Mae hi wedi trafod y peth, mae hi wedi egluro mai j么c oedd e, bod hi heb bechu o gwbl, bod hi ddim yn teimlo'n anghyfforddus.

"Mae gyda ni gyfeillgarwch wych - cyfeillgarwch gl貌s - a mae'n flin 'da fi os gafodd unrhyw un ei bechu ganddo ond dim ond j么c oedd e a dyna oll sydd iddo.

"S'dim stori fawr yna a rwy'n teimlo'n rhyfedd yn ymddiheuro oherwydd rwy'n teimlo bo' fi heb wneud dim byd mewn gwirionedd."

Ffynhonnell y llun, Guy Levy/大象传媒/PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y tango oedd dawns Katya Jones a Wynne Evans nos Sadwrn ac fe gafodd ei pherfformio i'r g芒n Money, Money, Money gan ABBA

Fe ddigwyddodd y ddau achlysur ar y balconi ble mae'r cystadleuwyr yn ymgynnull, yng nghwmni'r gyflwynwraig Claudia Winkleman, ac yn derbyn sgoriau'r beirniaid ar 么l perfformio.

Yn y fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Jones yn dweud mai "tynnu coes" oedden nhw, cyn i'r ddau ddweud "mae'n ddrwg 'da ni".

Mewn fideo pellach ddydd Sul, dywedodd mai "j么c fewnol rhyngddo fi a Wynne" oedd y digwyddiad "hynod wirion" pan symudodd ei law o'i chanol.

"Mae hyd yn oed y syniad bod e wedi gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus neu fy mhechu mewn unrhyw ffordd yn nonsens llwyr," ychwanegodd.

"Mae'n eitha' abswrd, mewn gwirionedd. Nawr, gallen ni ganolbwyntio ar pa mor wych mae e'n gwneud a'i fod yn datblygu i fod yn ddawnsiwr rhyfeddol?"

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 / PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Wynne Evans ei fod yn cael "amser gorau fy mywyd" wrth fod yn rhan o raglen Strictly Come Dancing

Roedd yr holl sylwadau negyddol yn fwy siomedig fyth i Wynne Evans oherwydd roedd y p芒r "ar massive high" yn dilyn perfformiad campus o'r tango, a'u gwelodd yn ail yn nhabl y gystadleuaeth ar y noson.

Dywedodd ddydd Llun fod Katya wedi "neidio i'm mreichia' a gofyn 'O ble ddaeth HYNNA?!' a finna'n dweud 'Sa i'n gwybod!'... nes i jest cofio'r holl nodiadau a wnaethon nhw ddawnsio fel pe tai eich bywyd yn dibynnu arno.

"Mae'n sefyllfa anodd... dydw i ddim yn ddawnsiwr a'r tro cyntaf wnes i sefyll ar lawr ddawnsio Strictly ro'dd cywilydd 'da fi ddawnsio o flaen pobl.

"Nawr chi'n mynd mas o flaen miliynau o bobl ar nos Sadwrn ac yn caniat谩u i'ch hun fod yn fregus [ond] mae wedi bod yn wych."

Hyd yn oed wedi profiadau'r penwythnos, mae'n dweud ei bod yn dal "yn cyffroi" o fod yn rhan o'r gystadleuaeth.

"Rwy'n cael amser gorau fy mywyd," meddai. "Rwy' jyst ddim mo'yn i hyn fod y peth mae pobl yn ei gofio."

Pynciau cysylltiedig