大象传媒

Afon lle cafodd pysgod marw eu darganfod 'bellach yn ddiogel'

Glannau Dyfrdwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 50 o bysgod wedi eu darganfod yn farw yn Afon Alun

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad oes angen i bobl gadw anifeiliaid draw o afon yn yr Wyddgrug, ar 么l t芒n a ffrwydrad mewn ffatri gemegol.

Cafodd tua 50 o bysgod eu darganfod yn farw yn afon Alun yn dilyn y t芒n yn ffatri Synthite ar 30 Ebrill.

Yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw wedi bod yn cadw llygaid ar yr afon ac mae lefelau llygredd wedi "gostwng yn sylweddol".

Dywedodd llefarydd bod yr afon bellach yn "ddiogel" a bod pysgod wedi dechrau dychwelyd i'r ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Synthite wedi bod yn gwneud cemegion ar y safle ar Ffordd Dinbych ers yr 1950au

"Does dim angen cadw anifeiliaid draw o'r d诺r erbyn hyn," meddai llefarydd.

"Bydd sawl asiantaeth yn parhau i gadw golwg ar yr afon a'i chadw yn l芒n dros yr wythnosau nesaf."

Bydd staff yn parhau i gymryd samplau o'r afon yn gyson.

Ar 么l y t芒n ar 30 Ebrill, cafodd pobl yr ardal eu cynghori i gadw eu drysau a'u ffenestri ynghau.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r safle a dywedodd y gwasanaeth t芒n eu bod wedi gyrru pedwar criw yno.