大象传媒

Prif sgoriwr y Cymru Premier yn symud i Sawdi Arabia

Brad YoungFfynhonnell y llun, Nik Mesney/CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brad Young oedd prif sgoriwr y Cymru Premier y tymor diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae ymosodwr Y Seintiau Newydd, Brad Young wedi cwblhau trosglwyddiad hanesyddol i glwb Al-Orobah yn Sawdi Arabia.

Y gred yw mai'r ffi - 拢190,000 - yw'r mwyaf erioed i glwb o gynghreiriau Cymru ei dderbyn am chwaraewr.

Young, 21, oedd prif sgoriwr y Cymru Premier y tymor diwethaf, a bu'n rhan fawr o'r ymgyrch i gyrraedd rownd y gynghrair yng Nghyngres UEFA.

Fodd bynnag, dywedodd y Seintiau eu bod wedi derbyn cynnig 鈥渆ithriadol鈥 gan Al-Orobah amdano.

Bydd pencampwyr Cymru yn wynebu Fiorentina a Panathinaikos yn eu gemau yng Nghyngres UEFA dros yr wythnosau nesaf.