Treth tanwydd: Pryder am effaith cynnydd ar gefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y byddai unrhyw gynnydd i'r dreth ar danwydd yn y gyllideb yr wythnos nesaf yn effeithio'n waeth ar bobl mewn cymunedau gwledig.
Mae yna ddyfalu bod y canghellor yn paratoi i gyflwyno'r codiad cyntaf i'r dreth ers 2011, wrth iddi geisio codi £40bn.
Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Geredigion Preseli, Ben Lake, y dylai unrhyw godiad ddod ag addewid i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
Mae'r Trysorlys wedi dweud nad yw'n gwneud sylw ar y dyfalu ynghylch y gyllideb.
- Cyhoeddwyd18 Hydref
- Cyhoeddwyd24 Hydref
Mae cwmni tacsis Home James yn Aberteifi yn gwario £3,500 yr wythnos ar danwydd.
Dywedodd Emma Collins o'r cwmni y gallai cynnydd i'r dreth ar danwydd ychwanegu £200 at y bil wythnosol.
"Mae pawb yn y cwmni yn becso," meddai.
Eglurodd Ms Collins na fyddai'r busnes yn gallu ymateb i unrhyw gynnydd drwy godi'r pris i gwsmeriaid oherwydd mai'r awdurdod lleol sy'n gosod y prisiau.
Dywedodd ei bod hi'n "anodd dweud" os fyddai angen i'r cwmni ystyried torri cyflogau staff, neu redeg llai o geir, pe bai cynnydd.
"Mae'r staff yn dibynnu ar wages nhw achos mae popeth yn mynd lan i nhw hefyd, so y peth dwetha’ ni moyn 'neud yw rhoi llai o waith i nhw."
Dywedodd hefyd y byddai cynnydd yn effeithio'n waeth ar bobl mewn cymunedau gwledig, ble mae natur y ffyrdd yn wahanol.
Y gyllideb ddydd Mercher fydd y gyntaf ers i Lafur ddod i rym wedi'r etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi rhybuddio'n barod bod angen codi £40bn er mwyn llenwi'r bwlch o £22bn yng nghoffrau’r wlad mae hi'n honni iddi etifeddu gan y Ceidwadwyr, ac i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
Ond yn ei maniffesto fe wnaeth Llafur addo peidio â chynyddu treth incwm, treth ar werth neu gyfraniadau yswiriant gwladol gan bobl sy'n gweithio.
O ganlyniad mae yna ddyfalu bydd Ms Reeves yn cyhoeddi cynnydd i drethi eraill, gan gynnwys y dreth ar danwydd.
Mae'r dreth honno wedi ei rhewi ers 2011, ac fe gafodd toriad dros dro o 5c y litr ei gyhoeddi yn 2022 gan y canghellor ar y pryd, Rishi Sunak, mewn ymateb i effaith y rhyfel yn Wcráin ar bris tanwydd.
Cafodd y toriad hwnnw ei ymestyn wedyn tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac felly'r gyfradd bresennol ydy 52.95c y litr.
Yn ôl amcangyfrifon, mae Llywodraeth y DU wedi colli allan ar £130bn drwy rewi'r gyfradd ers 2011, a byddai diddymu'r toriad presennol a chaniatáu i'r dreth gynyddu'n unol â graddfa chwyddiant yn codi £4.2bn i'r Trysorlys.
Mae William Gerwyn Williams o Rosehill Dairy yn Llechryd yn cyflenwi cynnyrch llaeth i fusnesau yn ne Ceredigion a thu hwnt, gan deithio dros 500 milltir yr wythnos.
"Os eith e lan 'to, wrth gwrs mae'n mynd i boeni ni," meddai am bris tanwydd.
"Mae pris y llaeth yn mynd i fynd lan i ni brynu i fewn, a bydd rhaid i ni godi e lan i'r cwsmer."
Yn ôl yr AS lleol Ben Lake o Blaid Cymru: "Mae ardaloedd fel Ceredigion Preseli yn wledig iawn ble mae yna brinder o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ac felly mae pobl yn dibynnu'n llawer fwy ar eu ceir oherwydd does yna ddim opsiwn arall.
"Felly byddai unrhyw godiad i'r dreth yma'n cael llawer fwy o effaith mewn llefydd fel Ceredigion Preseli na mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol."
Ychwanegodd bod ffyrdd eraill o godi treth fyddai'n "llawer tecach ar draws y wlad".
Ar yr un nodyn, dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru Haf Elgar y byddai'n "well gyda ni weld trethi ar y cyfoethog a busnesau sy'n llygru a diwydiannau".
"Ond dyw [y dreth ar danwydd] heb gynyddu ers dros ddegawd tra bod y prisiau teithio ar drên ac ar fysus wedi cynyddu'n sylweddol a'r gwasanaeth heb wella llawer chwaith," meddai.
"Felly rydyn ni'n derbyn os ydy'r newid yma'n mynd i ddigwydd y dylai e gael ei wario ar wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, a bod yr arian yma'n dod lawr i Gymru'n uniongyrchol er mwyn cael gwneud hynny."
Mae'r Trysorlys wedi dweud na fyddai'n gwneud sylw ar y dyfalu ynghylch y gyllideb.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod wedi rhybuddio cyn yr etholiad y byddai Llafur yn cynyddu trethi, ac yn gwadu eu bod wedi gadael twll o £22bn yng nghoffrau'r wlad.