'Gobaith i unrhyw un' sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p o 60 o bobl sydd wedi rhoi鈥檙 gorau i gyffuriau ac alcohol wedi dod at ei gilydd i ddringo un o fynyddoedd Eryri i ddangos bod 鈥榥a obaith i鈥檙 rheini sy鈥檔 parhau鈥檔 gaeth.
Teithiodd pobl o sawl rhan o Gymru a Lloegr i Feddgelert er mwyn dringo Moel Hebog.
Gwasanaeth cymorth lleol, Sober Snowdonia drefnodd y daith er mwyn dangos sut mae natur yn gallu helpu pobl.
Roedd y daith hefyd yn gyfle iddyn nhw greu cysylltiadau newydd a rhannu eu profiadau gyda鈥檌 gilydd.
Un o鈥檙 rheini deithiodd o Loegr i ogledd Cymru ar gyfer y digwyddiad oedd Llion Wyn Huws.
Yn wreiddiol o Gaernarfon, dechreuodd Llion gamddefnyddio alcohol a chyffuriau pan oedd yn blentyn.
鈥淣es i ddechrau cymryd alcohol a thabledi pan o鈥檔 i鈥檔 10 oed, ac yn weddol sydyn symudodd o ymlaen i anffetamin ac ecstasi.
"Erbyn o鈥檔 i鈥檔 16 oed o鈥檔 i鈥檔 chwistrellu heroin. Yn dilyn hynny o鈥檔 i jyst mewn ac allan o鈥檙 carchar."
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
Dywedodd Llion: 鈥淵 tro diwethaf es i i鈥檙 carchar nes i daro rock bottom, ac o鈥檔 i鈥檔 gwybod o鈥檔 i naill ai yn mynd i farw neu o鈥檔 i鈥檔 mynd i ladd rhywun arall.
"Es i i rehab... a nath hynny newid popeth i fi.
"Dwi 'di ffeindio Iesu Grist hefyd ac mae fy mywyd i鈥檔 gwbl wahanol.
鈥淢ae cael digwyddiad fel heddiw yn gr锚t.
"Mae鈥檔 gyfle i gyfarfod pobl sydd wedi bod, a dal i fynd trwy rywbeth tebyg i fi. Dwi鈥檔 gallu bod yn fi fy hun a rhannu鈥檔 onest sut dwi鈥檔 teimlo.鈥
'Nath fy mywyd ddisgyn yn ddarnau'
Cafodd y digwyddiad ei drefnu ar y cyd gan wyth sefydliad gwahanol.
Mae pob un ohonyn nhw鈥檔 darparu cymorth i鈥檙 rheini sy鈥檔 ceisio rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.
Rob Haverlock o Borthmadog oedd yn arwain y gr诺p i gopa Moel Hebog.
鈥淥鈥檔 i鈥檔 gaeth i gyffuriau a chwrw am dros 20 mlynedd.
"Trwy fod yn gaeth i gyffuriau nes i golli pob dim yn diwedd.
"Yn araf bach mi wnaeth fy mywyd i ddisgyn yn ddarnau."
Mae Rob yn egluro ei fod wedi cael "llond bol" yn y diwedd "a gwneud y penderfyniad i wella fy hun".
鈥淓rbyn hyn, dwi 鈥榙i bod yn rhydd o gyffuriau ac alcohol ers dros 17 mis.鈥
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe ddechreuodd gwasanaeth cymorth newydd o鈥檙 enw Sober Snowdonia.
鈥淪yniad Sober Snowdonia ydy dod 芒 phobl efo鈥檙 salwch yma i鈥檙 mynyddoedd ac i fi gael rhannu faint o gymorth mae 鈥榙i bod i fi efo pobl eraill.
"Yr unig le o鈥檔 i鈥檔 fodlon cerdded iddo fo o鈥檙 blaen oedd y t欧 tafarn neu i brynu cyffuriau a r诺an dwi wrthi鈥檔 cerdded y mynyddoedd anhygoel yma.鈥
Mae Rob yn rhedeg y gr诺p ar y cyd gyda鈥檌 bartner Leanne Jones o鈥檙 Felinheli.
Mae Leanne hefyd wedi rhoi鈥檙 gorau i gymryd cyffuriau ac alcohol ers bron i flwyddyn a hanner.
鈥淢ae gallu bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn yn gr锚t.
"'Da ni鈥檔 dod o gefndiroedd gwahanol ond mae gyda ni鈥檙 un problemau, a 鈥榙a ni鈥檔 gallu deall ein gilydd a siarad, a bod yna efo鈥檔 gilydd a jyst mwynhau鈥檙 diwrnod ym mhrydferthwch Eryri.
"Does dim llawer sy鈥檔 well.鈥
Mae nifer y marwolaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyffuriau ac alcohol yn parhau i fod ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru.
Yn 么l yr ystadegau diweddaraf, roedd yna 30 marwolaeth ym mhob 100,000 o鈥檙 boblogaeth yn 2022. Yn Lloegr y gyfradd yw 25.9.
Yn 2022 bu farw 834 o bobl ar draws Cymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau neu alcohol.
Mae鈥檙 gyfradd o farwolaethau wedi gostwng ymhlith dynion Cymru, ond mae鈥檔 uwch nag erioed ymhlith menywod.
Ond, mae Leanne yn teimlo鈥檔 gryf bod angen rhannu鈥檙 neges bod yna obaith i bawb sy鈥檔 gaeth i gyffuriau neu alcohol.
鈥淢ae 鈥榥a llawer o stigma o gwmpas alcohol a chyffuriau ond mae 鈥榥a gymaint ohonom ni mae jyst angen i ni fod yna gyda鈥檔 gilydd a helpu ein gilydd.
"Mae 鈥榥a obaith i unrhyw un sydd am roi'r gorau i'r pethau yma, ac mae angen i bobl wybod hynna.
"Mae 鈥榥a ffordd allan a dydi pobl ddim yn gorfod gwneud o ar eu pen eu hunain.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022