大象传媒

Dysgu Cymraeg gyda'r Urdd ar 么l ffoi o Afghanistan

MahFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mah yn gobeithio bod yn fydwraig yng Nghymru yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

I nifer o bobl yng Nghymru, mae'r ysgol wedi ailddechrau ar 么l gwyliau'r haf.

Ond i ferched yn Afghanistan, does dim modd iddyn nhw gael mynediad at addysg uwchradd na bywyd cyhoeddus oherwydd gwaharddiad gan y Taliban.

Fe wnaeth Mah, 22, ffoi o'i gwlad fis Awst 2021 pan wnaeth criw ohonyn nhw ddianc i'r brifddinas, Kabul.

Mae hi bellach yn derbyn ei haddysg yng Nghymru, ac yn dechrau astudio TGAU Saesneg yr wythnos hon.

Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Yr Urdd a bellach yn dysgu Cymraeg.

'Mae gen i ryddid. Dwi'n rhydd'

Wrth siarad 芒'r 大象传媒 dywedodd Mah ei bod yn "hapus i fy hun. Dwi'n saff. Mae gen i ryddid. Dwi'n rhydd".

"Ond ar yr un pryd, nid yw fy ffrindiau yn Afghanistan yn gallu gwneud unrhywbeth," meddai.

Yn y tair blynedd ers i'r Taliban gymryd rheolaeth, mae'r cyfyngiadau ar fywydau menywod wedi cynyddu.

Mae merched dros 12 oed wedi eu gwahardd o ysgolion, a'u hatal rhag sefyll y rhan fwyaf o brofion ar gyfer cael lle mewn prifysgolion.

"Dwi ddim yn rhoi fy llun ar Whatsapp na Instagram pan dwi'n hapus, pan dwi'n mynd allan gyda fy ffrindiau neu pan dwi yn y coleg," meddai.

"Dwi ddim eisiau i fy ffrindiau [adref] deimlo fel: 'O ma' hi yn y DU nawr - ma' ganddi ryddid'."

Cefnogaeth gan yr Urdd

Fe dderbyniodd Mah gefnogaeth gan fudiad yr Urdd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis, fod rhai pobl sydd wedi ffoi i Gymru ac wedi derbyn addysg bellach yn ddwyieithog yn y Gymraeg.

"Roedden nhw wedi eu haddysgu yma yn yr Urdd i gychwyn ac fe aeth sawl un i fyw mewn mannau gwahanol yng Nghymru.

"Mae wedi agor cymaint o ddrysau iddyn nhw," meddai.

Pan ddaeth Mah i'r DU doedd hi methu siarad Saesneg.

"Roedd mor anodd. Do'n i ddim yn nabod neb. Roedd popeth yn newydd," meddai.

Tair blynedd yn ddiweddarach ac mae'n medru siarad Saesneg ac yn dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tair blynedd ers gadael Afghanistan, mae Mah bellach yn gallu siarad Saesneg ac yn dysgu Cymraeg

Mae Mah yn gobeithio y bydd astudio TGAU Saesneg yn ddechrau'r daith iddi fod yn fydwraig yng Nghymru.

"Mae'n anodd i mi achos dwi'n gallu mynd i'r coleg yma a dwi'n gallu gweithio.

"Ond ar yr un pryd, dyw fy ffrindiau sydd yr un oed 'n么l adref methu gadael y t欧."

Mae'r Taliban wedi dweud mai rhesymau crefyddol sydd y tu 么l i'r gwaharddiad.

Maen nhw wedi addo dro ar 么l tro y bydd menywod yn cael eu derbyn unwaith bydd y materion wedi eu datrys - gan gynnwys gwneud yn si诺r fod y cwricwlwm yn un "Islamaidd".

Ond does dim datblygiad wedi bod, ac Afghanistan yw'r unig wlad sy'n dal i orfodi'r gwaharddiadau.

'Fe ddaethom heb ddim byd'

Nid oedd siwrne Mah i dderbyn ei haddysg yng Nghaerdydd yn un hawdd.

Wrth i'r Taliban gymryd rheolaeth, dywedodd Mah iddi ffoi o ranbarth Helmand i Kandahar ac yna i Kabul. Fe ddeffrodd yng nghanol y nos, dri diwrnod ar 么l cyrraedd y brifddinas, gan ddarganfod fod y Taliban ar ei stryd.

"Os byddwn wedi aros yn Afghanistan, efallai y bydden nhw wedi fy lladd, neu wedi gorfod priodi," meddai.

"Ffoniais fy mam gan ddweud 'Mam, dwi'n mynd.' Atebodd ei mam gan ddweud 'lle wyt ti'n mynd?'

Atebodd Mah gan ddweud: "Dwi ddim yn si诺r."

Fe gyrhaeddod Mah y DU, ynghyd 芒 ffoaduriaid eraill oedd wedi eu croesawu i'r wlad.

"Fe ddaethom heb ddim byd. Nes i ddim dweud hwyl fawr [go iawn] i fy mam. Nes i ddim hyd yn oed ei chofleidio. Na'i fyth anghofio hwnna.

"Dydi o ddim yn saff nawr, ond cefais fy magu yn Afghanistan, a mynd i'r ysgol yna. Dwi methu anghofio'r wlad, dwi'n methu popeth amdano."

Pynciau cysylltiedig