大象传媒

Rhybuddion melyn am ddeuddydd o wynt a glaw yng Nghymru

Map rhybuddion melyn ddydd Sul 29 MediFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd dau rybudd tywydd - un am wyntoedd cryfion ac un am law trwm - mewn grym yng Nghymru ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae 'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod disgwyl tywydd garw yn y rhan helaeth o Gymru ddydd Sul.

Daeth rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rym am 09:00 ac mae'n para nes 23:59.

Mae'n berthnasol i 13 o siroedd Cymru - Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Ynys M么n.

Mae disgwyl y gallai gwyntoedd, wrth gryfhau wrth deithio o'r gorllewin tua'r dwyrain, hyrddio hyd at 55mya, yn enwedig mewn mannau arfordirol.

Yn y mannau mwyaf agored fe allai'r hyrddiadau gyrraedd 60mya, ac mae disgwyl cawodydd o law trwm hefyd ar brydiau,

Fe allai'r amodau greu trafferthion i yrwyr, yn ogystal ag amharu ar gyflenwadau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybudd melyn ar wah芒n am law trwm yn dod i rym dros nos yn y gogledd ddwyrain

Daeth rhybudd melyn am law i rym yn ne Cymru rhwng 16:00 brynhawn Sul a 09:00 fore Llun.

Mae disgwyl 20-30mm o law dros gyfnod o naw i 12 awr yn y mwyafrif i lefydd, ond mae 50-80mm o law yn bosib ar diroedd uchel.

Yna fe fydd rhybudd melyn arall - eto am law trwm - yn dod i rym dros nos yn y gogledd ddwyrain.

Fe allai siroedd Wrecsam, Y Fflint a Dinbych ddisgwyl 20-40 mm o law rhwng 00:30 a 20:00 ddydd Llun - hyd at 60mm mewn ambell le.

Pynciau cysylltiedig