大象传媒

Ymchwiliad heddlu i fideo ymosodiad disgyblion Caernarfon

Ysgol Syr Hugh OwenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ysgol Syr Hugh Owen eu bod yn cefnogi ymchwiliad yr heddlu

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i fideo sydd wedi cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos bachgen yn cael ei ddyrnu a'i gicio gan fachgen arall.

Dywedodd Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon a Chyngor Gwynedd mewn datganiad eu bod yn cefnogi ymchwiliad yr heddlu a bod y digwyddiad y tu allan i oriau ysgol.

Ychwanegodd: "Nid yw鈥檙 ysgol yn goddef unrhyw fath o fwlio ac eir i鈥檙 afael ag unrhyw bryderon yn unol 芒 gweithdrefnau.

"Mae lles holl ddisgyblion Gwynedd yn flaenoriaeth i ni."

Dywedodd y llu eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ddydd Mawrth diwethaf, 7 Mai.

Ychwanegon nhw fod swyddogion mewn cysylltiad 芒 theulu ac ysgol y dioddefwr.

Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Ian Roberts: "Rydym yn ymwybodol bod fideo o'r digwyddiad wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Wrth fod yr ymchwiliad yn parhau, byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i beidio 芒 rhannu'r fideo ymhellach, a'i dynnu o unrhyw dudalennau.

"Mae hyn er lles y disgybl dan sylw."

Pynciau cysylltiedig