大象传媒

Cyn-chwaraewr Cymru a'r Llewod Peter Morgan wedi marw

Peter MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Peter Morgan yn gallu chwarae fel cefnwr, maswr a chanolwr

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr Cymru a'r Llewod Prydain Peter Morgan wedi marw yn 65 oed.

Teithiodd i Dde Affrica gyda'r Llewod yn 1980 ac roedd gapten Lanelli pan wnaethon nhw lwyddo i drechu Awstralia.

Wedi'i eni yn Hwlffordd ar 1 Ionawr, 1959, fe chwaraeodd i Gymru bym gwaith, gan gynnwys g锚m 1980 yn erbyn y Crysau Duon yng Nghaerdydd.

Enillodd yr olaf o鈥檌 gapiau dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn y Stadiwm Genedlaethol yn 1981.

Enillodd Cymru 9-8, ond oedd rhaid i Morgan ymddeol wedi iddo dorri ei asennau ar 么l tacl drom.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Peter Morgan yn 1979

Roedd nifer o fawrion y byd rygbi yng Nghymru 芒 pharch mawr at Morgan, gan gynnwys y diweddar Carwyn James, hyfforddwr y t卯m Llewod enwog yn 1971.

Fe ddisgrifiodd Morgan fel "baban y garfan am flynyddoedd, ond yn fwy dawnus na鈥檙 mwyafrif".

Dywedodd y diweddar Phil Bennett fod Morgan "wedi dioddef sawl tro anffodus ar adegau allweddol yn ei yrfa ac roedd yn anlwcus i fod heb ennill llawer iawn yn fwy o gapiau".

Ar 么l ymddeol aeth Morgan i wleidyddiaeth leol, gan ddod yn aelod annibynnol ar Gyngor Sir Penfro am 16 mlynedd.

Gwasanaethodd fel cadeirydd ac is-gadeirydd yr awdurdod, a bu hefyd yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae'n gadael gwraig, Helen, dwy ferch, Nia a Lowri, a'i wyrion, Seren a Dewi.