Howard Marks: pwy oedd y dyn tu 么l i 'Mr Nice'?
- Cyhoeddwyd
Mae Howard Marks yn enwog am fod yn un o gyflenwyr canabis mwyaf toreithiog yr 1980au ond pwy oedd y dyn tu 么l i 'Mr Nice'?
Mewn rhaglen ddogfen newydd, Hunting Mr Nice, mae鈥檙 cyn-smlygwr, awdur a鈥檙 ymgyrchydd yn cael ei gofio fel seren roc ond hefyd yn berson oedd ag obsesiwn gyda'i hun.
'Person egsotig'
Cafodd Howard Marks ei eni ym Mynydd Cynffig ger Pen-y-bont yn 1945.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Garw, ym Mhontycymer, cyn mynd ymlaen i Goleg Balliol, Prifysgol Rhydychen, i astudio ffiseg.
Mae Lynn Barber, awdur a ffrind o Rydychen yn ei gofio fel person 鈥渆gsotig鈥.
"Roedd yn aml yn gofyn i ferched fynd i'r gwely gyda fe", meddai.
Dywedodd hefyd roedd ganddo gyffuriau arno bob amser.
"Ar y dechrau roedd yn cael ei weld fel rhyw fath o gymeriad Robin Hood oedd yn helpu pobl i gael canabis," meddai.
"Roedd yn edrych fel person egsotig, yn gymeriad egsotig iawn."
"Roedd yn gwybod sut i fanteisio ar gyfleodd ond sai'n credu roedd ganddo gynllun mawr o gwbl."
'Smyglo cyffuriau wedi newid ei fywyd'
Mewn cyfweliad archif sy鈥檔 cael ei ddatgelu gan y rhaglen ddogfen, mae Marks yn esbonio sut ddechreuodd smyglo canabis.
Tra'n astudio yn y coleg, bu'n arbrofi 芒'r cyffur canabis, cyn dechrau gwerthu'r sylwedd ymysg ei gyfoedion.
"Dechreuais ddelio, prynu a gwerthu, i ddechrau dim ond er mwyn gallu fforddio cael digon i ysmygu, a oedd yn eithaf cyffredin ymhlith myfyrwyr," meddai.
"Mae wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl."
Ugain mlynedd ar 么l gadael Rhydychen roedd Marks yn arwain gweithrediad smyglo cyffuriau rhyngwladol o'i gartref yn Palma, Mallorca, lle鈥檙 oedd yn byw gyda鈥檌 wraig a鈥檌 dri o blant.
Erbyn canol yr 80au roedd yn mewnforio miloedd o dunelli o ganabis i'r DU a鈥檙 UDA.
Roedd Craig Lovato yn gweithio i'r Weinyddiaeth Rheoli Cyffuriau ac yn benderfynol o'i ddal.
Daeth Marks i'w sylw yn 1973 pan lwyddodd i smyglo cyffuriau i'r Unol Daleithiau tu fewn i seiniau bandiau roc Prydain ar deithiau.
Ym 1981 cafwyd yn ddieuog i gyhuddiadau cyffuriau ar 么l dweud wrth reithgor ei fod yn asiant MI5 yn ysb茂o ar smyglwyr cyffuriau yr IRA.
"Roedd gen i obsesiwn gyda dal fe a chwalu ei sefydliad,鈥 meddai Craig Lovato wrth y rhaglen ddogfen.
"Roedd Marks yn teimlo fel bod neb yn gallu cyffwrdd ag e.
"Roedd yn arbennig o glyfar - roedd ganddo sefydliad byd-eang lle buodd yn gwyngalchu miliynau o ddoleri, llongau, awyrennau a llongau tanfor, heb unrhyw waith papur.鈥
'Y peth gwaethaf a ddigwyddodd i mi'
Yn 么l Gerry Wills, a dreuliodd chwe blynedd mewn carchar yn America am ei r么l yn trefnu cludo鈥檙 canabis, roedd gan Marks 鈥渟gil o ddod a phobl at ei gilydd鈥.
Dywedodd mai Marks oedd 鈥測 Cymro gorau wnes i erioed ei gyfarfod."
Ond i Roger Reeves, a dreuliodd 33 mlynedd yn y carchar am droseddau cyffuriau, Marks oedd y "peth gwaethaf a ddigwyddodd erioed" iddo.
"Doedd Howard ddim yn poeni. Roedd e'n meddwl ei fod e'n fwy clyfar na phawb arall."
Cafodd Marks ei arestio ym 1988 yn Sbaen ar gyhuddiadau masnachu cyn cael ei cael ei ganfod yn euog gan yr awdurdodau gwrth-gyffuriau Americanaidd a'i garcharu am 25 mlynedd.
Cafodd ei ryddhau ar barol yn gynnar, a hynny yn Ebrill 1995 oherwydd ei waith yn cefnogi ac addysgu carcharorion oedd yn wynebu'r system gyfiawnder yn America.
Yna dechreuodd ei yrfa fel awdur ac ymgyrchydd dros gyfreithloni canabis.
Dechreuodd drwy ysgrifennu ei atgofion, Mr Nice, a chafodd ei addasu i ffilm.
Roedd yn aml yn teithio鈥檙 wlad lle buodd yn adrodd straeon am smyglo cyffuriau a'i amser yn y carchar.
Cafodd r么l mewn sioeau teledu fel Never Mind the Buzzcocks, a chyfnod yn cyd-weithio gyda鈥檙 gr诺p Super Furry Animals.
Ond i'w ffrind Marty, doedd Howard Marks "ddim yn ddyn drwg.
"Roedd yn mwynhau ysmygu ac fe aeth allan o law," meddai.
"Roedd e'n junkie, doedd e methu rhoi'r gorau i ddelio."
Yn 2016, bu farw Marks o ganser yn 70 oed.
Fe fydd y rhaglen Hunting Mr Nice yn cael ei ddarlledu ar 21 Tachwedd ar 大象传媒 One.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2016