大象传媒

Reiffl a chi marw wedi'u canfod mewn t欧 lle bu farw p芒r priod 'ffyddlon'

Trowbridge
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd swyddogion yn parhau yn yr ardal brynhawn Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau p芒r priod "ffyddlon" wedi dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.

Cafodd dyn 74 oed a dynes, 72, eu canfod yn farw mewn t欧 ym Morfa Crescent yn ardal Trowbridge, Caerdydd am tua 14:50 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad fod y ddau berson wedi marw "yn sydyn" a'u bod wedi canfod gwn reiffl yn y t欧.

Cafodd ci ei ganfod yn farw yno hefyd.

Dywedodd cymydog, a oedd yn adnabod y cwpl yn dda: 鈥淢ae pawb mewn sioc, roedden nhw'n gwpl hyfryd, wedi ymroi'n llwyr i'w gilydd.

鈥淵r hyn sydd wedi cynhyrfu pobl gymaint ag unrhyw beth arall yw bod eu cocker spaniel wedi鈥檌 ladd hefyd."

'Sioc a thristwch i'r gymuned'

Y gred yw fod gan y cwpl, a oedd wedi bod yn briod am fwy na 50 mlynedd, ddau o blant h欧n yn byw yn lleol.

Dywedodd cymydog arall, nad oedd eisiau cael ei enwi: 鈥淩oedden nhw鈥檔 gwpl neis, tawel a oedd bob amser yn chwifio llaw wrth yrru heibio i mi yn eu fan."

Dywedodd yr heddlu nhw nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.

Mae'r llu wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd wrth i'r ymchwiliad barhau.

"Rydyn ni'n deall fod y digwyddiad yma wedi achosi sioc a thristwch i'r gymuned leol," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees.

鈥淢ae ymholiadau helaeth yn cael eu cynnal i sefydlu鈥檙 amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad.

鈥淩ydym yn aros am ganlyniadau archwiliadau post-mortem, fydd yn cadarnhau achos y farwolaeth."

Pynciau cysylltiedig