大象传媒

Team GB eisiau t卯m p锚l-droed dynion yng Ngemau 2028

T卯m GB yng Ngemau Olympaidd 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd pum Cymro yng ngharfan Team GB yng Ngemau Olympaidd 2012, gan gynnwys rheolwr presennol Cymru Craig Bellamy

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwyr cymdeithas Olympaidd Prydain yn gobeithio anfon t卯m p锚l-droed dynion i'r Gemau nesaf yn Los Angeles yn 2028.

Roedd yna wrthwynebiad chwyrn gan lawer y tro diwethaf y digwyddodd hynny pan lwyfannodd Llundain y gemau yn 2012.

Pryder y gwrthwynebwyr i'r syniad yw y byddai cystadlu fel un t卯m unedig yn tanseilio annibyniaeth timau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yng nghystadlaethau Fifa ac Uefa.

Ond mae prif weithredwr y BOA (British Olympic Association) Andy Anson yn dweud y byddai cael t卯m dynion unedig yn Los Angeles "yn wych i b锚l-droed".

Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn am sylw gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru.

Bellamy yn y garfan yn 2012

Ryan Giggs oedd capten y garfan yn 2012 pan gyrhaeddodd Team GB rownd yr wyth olaf.

Roedd pedwar Cymro arall yn y garfan - Joe Allen, Aaron Ramsey, Neil Taylor a rheolwr presennol Cymru Craig Bellamy - ynghyd 芒 13 chwaraewr o Loegr.

Yr awgrym ar y pryd oedd mai eithriad ar gyfer Gemau 2012 yn unig oedd y t卯m, gan fod y Gemau'n cael eu cynnal yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd dim t卯m p锚l-droed dynion ar ran Prydain yng Ngemau Paris, sydd newydd ddod i ben

Mae dilynwyr p锚l-droed Cymru eisoes wedi mynegi gwrthwynebiad i'r syniad ar gyfer 2028 ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag o leiaf un yn apelio ar brif weithredwr Cymdeithas B锚l-droed Cymru, Neil Mooney, i'w ddiystyru.

Mae Cymdeithas B锚l-droed Yr Alban wedi dweud nad ydyn nhw'n cefnogi'r syniad, ond na fydden nhw'n atal unigolion fyddai'n dymuno cymryd rhan.

Fe allai clybiau p锚l-droed wrthwynebu'r posibilrwydd o orfod rhyddhau chwaraewyr hefyd.

Bydd Gemau Olympaidd Los Angeles yn dechrau ychydig ddyddiau ar 么l rownd derfynol Euro 2028 ac ychydig wythnosau cyn dechrau'r tymor domestig.

Mae carfan merched Team GB eisoes yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd, ond fe wnaethon nhw fethu 芒 sicrhau lle yng ngemau eleni.

Fe gystadlodd t卯m p锚l-droed dynion ar ran Prydain ym mhob Gemau Olympaidd rhwng 1948 a 1972.