大象传媒

'Ymchwiliad heddlu i dreuliau AS yn cael ei gymryd o ddifri'

Laura Anne Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nos Wener cafodd Laura Anne Jones ei thynnu o'i r么l yn y cabinet cysgodol

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 Blaid Geidwadol yn cymryd ymchwiliad heddlu i dreuliau un o鈥檜 haelodau o ddifrif, yn 么l cyd-Aelod Ceidwadol o鈥檙 Senedd.

Nos Wener cafodd Laura Anne Jones ei thynnu o'i r么l yn y cabinet cysgodol wedi i negeseuon testun o'i ff么n awgrymu bod aelod o staff wedi cael cais i gynyddu ei cheisiadau am dreuliau gymaint 芒 phosib.

Dywed cyfreithiwr ar ran Ms Jones ei bod "yn fodlon bod unrhyw honiadau cysylltiedig ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn gwbl gamsyniadol".

Dywedodd AS Gogledd Cymru, Sam Rowlands, wrth raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales y byddai unrhyw gamau'n cael eu cymryd pan ddaw'r ymchwiliadau i ben.

Mae Ms Jones, sy'n AS dros Ddwyrain De Cymru, yn destun ymchwiliad gan yr heddlu wedi honiadau yn ymwneud 芒'i threuliau.

Roedd un neges destun yn gofyn i aelod o staff: "Wrth hawlio costau petrol - nodwch fwy nag y gwnes i bob amser - ychwanegwch bethau os gwelwch yn dda".

Yn y negeseuon gafodd eu gweld gan 大象传媒 Cymru, maen nhw'n gofyn a ddylid hawlio treuliau ar ran gwleidyddion yn ystod dyddiau pan oedd Ms Jones i ffwrdd yn s芒l.

Nid oedd ateb uniongyrchol i'r cwestiwn hwnnw. Fodd bynnag, mae'n ymddangos wedyn bod graff o'r hyn fyddai'r treuliau wedi cael ei anfon i ff么n Ms Jones.

Dywedodd ymateb o ff么n Ms Jones: "Pe baech chi bob amser yn gallu gwneud mwy nag y mae'n ei ddweud, byddai hynny'n wych, diolch".

Cafodd y neges ei dilyn gan emoji bodiau i fyny.

Dywedodd neges arall o'r un ff么n: "Wrth hawlio petrol - gwnewch y cyfanswm yn fwy na nes i bob amser - ychwanegwch bethau os gwelwch yn dda".

Cafodd y neges honno ei dilyn gan emoji bawd i fyny ac un o ddwylo gyda'i gilydd.

Pan ofynnodd aelod o staff "tebyg i ymweliadau 芒 swyddfa etholaeth?", mae ymateb yn dweud: "Ie - stwff fel 'na [emoji dwylo gyda'i gilydd]."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 大象传媒 Cymru wedi gweld negeseuon sydd wedi'u hanfon at aelod o staff

Ni all y 大象传媒 wirio a yw'r negeseuon yn cynrychioli'r holl sgyrsiau rhwng y bobl dan sylw, na'u cyd-destun yn llawn.

Mae ymchwiliad i Ms Jones yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain a Heddlu'r De.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau. Nid oes unrhyw un wedi cael ei arestio.

Dywedodd Sam Rowlands: 鈥淢ae hi wedi cael ei thynnu o gabinet yr wrthblaid yn y Senedd, ac mae ymchwiliad ar y gweill i ddeall beth sy鈥檔 digwydd.

"Mae hynna'n cael ei wneud yn annibynnol, ac rwy鈥檔 si诺r y bydd camau priodol yn cael eu cymryd o ganlyniad i hynny.

鈥淵 cyfan rydyn ni wedi'i weld hyd yn hyn yw ychydig o sgrinluniau o rai negeseuon.

鈥淢ae angen i ni ddeall y manylion cyn cymryd camau priodol.

鈥淢ae bod yn rhan o'r cabinet cysgodol yn r么l bwysig yn y Senedd, felly mae symud Laura o鈥檙 swydd honno yn gam arwyddocaol ac yn dangos pa mor ddifrifol y mae'r mater yn cael ei ystyried.鈥

'Cam arwyddocaol'

Gofynnwyd i Mr Rowlands hefyd pam fod arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi tynnu Ms Jones o'i r么l yn y cabinet cysgodol ond heb ei hatal o'r gr诺p Ceidwadol.

Dywedodd: "Mae cael gwared ar y r么l honno yn y cabinet cysgodol yn gam arwyddocaol go iawn."

Pan ofynnwyd iddo a oedd y penderfyniad hwnnw鈥檔 tanseilio Mr Davies pan y mae'n cwestiynu gonestrwydd a barn y Prif Weinidog Vaughan Gething, dywedodd Mr Rowlands: 鈥淢ae gonestrwydd a chrebwyll Andrew RT Davies yn gwbl bwysig o fewn hyn ac rwy鈥檔 si诺r ei fod yn adolygu鈥檙 manylion wrth iddyn nhw ymddangos a bydd yn gweithredu pan fo gwir angen gwneud hynny."

Mae cyfreithiwr ar ran Ms Jones wedi dweud mewn datganiad nad yw wedi derbyn "unrhyw g诺yn ffurfiol am fwlio mewn perthynas ag unrhyw un o'i staff".

Ychwanegodd yn y datganiad ei bod hi "yn fodlon bod unrhyw honiadau cysylltiedig ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn gamsyniad llwyr".

鈥淢ae Ms Jones yn credu nad oes sail i'r cwynion sydd wedi eu cyflwyno i鈥檙 comisiynydd safonau.

鈥淕an fod y materion hyn yn cael eu hymchwilio ar hyn o bryd byddai鈥檔 amhriodol i Ms Jones wneud unrhyw sylw pellach.

"Nid oes gan Ms Jones unrhyw broblem gyda'r 大象传媒 na'r ffynonellau a wnaeth gyflwyno'r honiadau hyn i'r heddlu a/neu'r comisiynydd safonau - maen nhw yn rhoi'r cyfle iddi ymateb yn ffurfiol fel rhan o'r ymchwiliad pe bai'r awdurdodau'n mynnu hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淔e wnes i gamgymeriad barn enfawr yn sicr ac rwy鈥檔 ymddiheuro鈥 meddai Craig Williams

Yn y cyfamser, dywedodd Mr Rowlands fod yr ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad cyffredinol, Craig Williams wedi gwneud "camgymeriad enfawr" wedi iddo fetio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol nesaf.

"Mae'r mater yn cael ei godi wrth fynd o ddrws i ddrws," meddai Mr Rowlands.

"Ond mae gan fwy o bobl ddiddordeb yn record y llywodraeth yma yng Nghymru."

Mae Mr Williams, a fu'n gynorthwy-ydd i'r prif weinidog, ac sy'n sefyll ym Maldwyn a Glynd诺r, wedi cyfaddef ei fod wedi ei fod wedi gwneud "camsyniad difrifol".

Pynciau cysylltiedig