大象传媒

Coridor Ansicrwydd: 'VAR ydy rwdans y flwyddyn!'

Disgrifiad,

Coridor Ansicrwydd: 'VAR ydy rwdans y flwyddyn!'

  • Cyhoeddwyd

Heb os, dyrchafiad Wrecsam i'r Adran Gyntaf oedd uchafbwynt tymor digon siomedig i glybiau Cymru.

Tra bod chwaraewyr Wrecsam yn hedfan i Las Vegas i ddathlu mwy o lwyddiant, crafu pen a gobeithio am dipyn gwell tymor nesaf oedd carfanau Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.

Tasg Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ar bennod olaf y tymor o 'Y Coridor Ansicrwydd' oedd dewis rheolwr, chwaraewr, g锚m, uchafbwynt a sioc y tymor.

Roedd hefyd angen dewis "pen rwd" neu "ffwl" y tymor, ac am unwaith roedd y ddau yn gwbl gyt没n.

Gwrandewch ar Y Coridor Ansicrwydd ar 大象传媒 Sounds.

T卯m y flwyddyn

Y dasg olaf i'r ddau oedd dewis "t卯m y tymor", gan ddewis chwaraewyr Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam ac o glybiau'r Cymru Premier.

Dyma'r 11 gafodd eu dewis, yn seiliedig ar eu perfformiadau dros y tymor.

Beth wnewch chi o'r dewisiadau?

Golwr

Arthur Okonkwo (Wrecsam) 40 g锚m, 16 llechen l芒n

Malcolm Allen: "Cawr yn y cefn i Wrecsam. 'Nawn nhw'n dda i gadw gafael arno ar gyfer tymor nesa'."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A fydd Wrecsam yn gallu cadw eu gafael ar Arthur Okonkwo am dymor arall?

Amddiffyn

Perry Ng (Caerdydd) 41 g锚m, 6 g么l

Malcolm: "Un o'r ychydig rai i berfformio yn gyson i Gaerdydd, ac yn gallu sgorio goliau pwysig."

Dimitrios Goutas (Caerdydd) 46 g锚m, 4 g么l

Owain: "Mae Goutas wedi gwneud yn iawn yn ei dymor cyntaf efo Caerdydd. Edrych yn addawol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dimitrios Goutas wedi cael tymor addawol yn y brifddinas

Max Cleworth (Wrecsam) 31 g锚m, 1 g么l

Malcolm: "Mae hwn yn parhau i wella ac yn mynd i fod yn seren mawr yn y dyfodol."

Josh Tymon (Abertawe) 45 g锚m

Owain: "Mae hwn yn chwaraewr da. Wedi dod o Stoke. Mae o'n gallu ymosod, amddiffyn yn dda. Ella bod o heb gael y sylw mae o'n ei haeddu. Disgwyl lot ganddo tymor nesa."

Ar y rhestr fer: James McClean (Wrecsam), Tom O'Connor (Wrecsam)

Canol cae

Matt Grimes (Abertawe) 50 g锚m, 5 g么l

Owain: "Mae o mor ddylanwadol a dibynadwy yng nghanol cae Abertawe. Mi fydd y cefnogwyr yn sylweddoli pa mor lwcus oedden nhw i'w gael o pan fydd o'n mynd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Abertawe yn ffodus i gael Matt Grimes, meddai Owain

Andy Cannon (Wrecsam) 40 g锚m, 8 g么l

Malcolm: "Llawn egni ac yn gyswllt gwych rhwng yr amddiffyn a'r ymosod i Wrecsam. Mae hwn yn gwybod sut i daro p锚l hefyd."

Elliot Lee (Wrecsam) 53 g锚m, 16 g么l

Owain: "Mi fasa hi wedi bod yn anodd iddo gael yr un dylanwad drwy'r tymor i gyd ond be' nath o yn yr hanner cyntaf... oedd o bron yn cario Wrecsam."

Rhestr fer: George Evans (Wrecsam)

Ymosod

Will Evans (Casnewydd) 52 g锚m, 24 g么l

Malcolm: "Cyfanswm goliau anhygoel mewn t卯m go lew. Mae o wedi bod yn glinigol. Os ti'n sgorio goliau, nei di dynnu sylw pobl.

"Goliau troed chwith, troed dde ac efo'i ben felly mae popeth ganddo. Mae o wedi dysgu a datblygu fel chwaraewr. Mater o amser tan fydd o'n gadael Casnewydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o uchafbwyntiau tymor Will Evans oedd ei berfformiad yn erbyn Manchester United

Sion Bradley (Caernarfon) 33 g锚m, 9 g么l

Owain: "Y chwaraewr sydd wedi sefyll allan fwyaf yn y Cymru Premier. Ers blynyddoedd mae o wedi bod yn chwaraewr a hanner.

"Mae o mor glyfar. Mae'n gallu gollwng yr ysgwydd a gyrru amddiffynwyr y ffordd anghywir. Mae o wedi adio goliau tymor yma - a goliau o safon. Oedd ei g么l yn erbyn Lloegr C yn ddigon i'w roi o yn y t卯m."

Brad Young (Y Seintiau Newydd) 31 g锚m, 26 g么l

Malcolm: "Mae o'n trio gweithio ei ffordd yn 么l i fyny ar cael ei ryddhau gan Aston Villa. Mae o'n ddigon da i chwarae yn yr Adran Gyntaf, a mi fasa fo'n gr锚t i Wrecsam.

"Mae o'n gyflym, llygad am g么l, gweithio'n galed ac yn benderfynol. Tymor cyntaf gwych i Wrecsam."

Rhestr fer: Paul Mullin (Wrecsam)