大象传媒

G诺yl 'unigryw' sy'n rhoi llwyfan i berfformwyr anabl

G诺yl Undod Ffynhonnell y llun, Hijinx
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd G诺yl Undod ei chynnal am y tro cyntaf 16 mlynedd yn 么l

  • Cyhoeddwyd

Mae artistiaid wedi canmol g诺yl "unigryw" sy'n rhoi llwyfan i berfformwyr anabl, ond maen nhw'n dweud bod angen mwy o gyfleoedd yn gyffredinol.

G诺yl Undod yw un o'r gwyliau celfyddydol mwyaf o'i bath yn Ewrop.

Cafodd ei chynnal am y tro cyntaf 16 mlynedd yn 么l.

Mae鈥檔 digwydd dros naw dydd ac mae wedi bod ar daith o Fangor i Lanelli cyn gorffen yng Nghaerdydd y penwythnos yma.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Bu gwelliannau o ran cyfleoedd sydd ar gael ond mae mwy i'w wneud," meddai Richard Newnham

Un o'r rhai fu'n perfformio mewn noson gomedi yng Nghanolfan y Mileniwm yw'r comed茂wr a'r actor Richard Newnham.

"Rwy鈥檔 meddwl bod gan rai argraffiadau eithafol o hyd o ran pobl ag anableddau," meddai.

"Mae pobl teimlo piti neu'n meddwl ein bod ni'n superhuman - ond mae'r rhan fwyaf ohonom rywle yn y canol."

Mae hefyd yn cymryd rhan mewn darn o theatr stryd o'r enw 'Truth' dros y penwythnos ac yn dweud bod yr 诺yl yn gyfle 鈥渇fantastig鈥 i berfformwyr gydag anabledd a phobl niwroamrywiol ddangos yr hyn maen nhw'n gallu ei wneud.

"Mae cymaint o artistiaid anabl - mae pethau wedi gwella o ran cyfleoedd sydd ar gael ond mae mwy i'w wneud," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Oliver Crawford

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig G诺yl Undod a chwmni theatr Hijinx, Ben Pettitt-Wade eu bod wedi sefydlu'r 诺yl oherwydd ei fod yn "anhygoel o anodd" ar y pryd i artistiaid anabl gael gwaith proffesiynol.

Cytunodd fod pethau wedi gwella ers hynny ond "mae wastad lle i sicrhau bod mwy o gyfleoedd".

"Mae'r elfen ryngwladol hefyd yn hynod o bwysig. Mae ein g诺yl yn agor ei drysau i artistiaid o bob rhan o'r byd ac yn hyrwyddo Cymru fel cenedl groesawgar."

Mae Dan莽a sem Fronteira, cwmni dawns o Sao Paolo ym Mrasil, hefyd yn rhan o'r digwyddiad.

Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Fernanda Amaral eu bod wedi cael ymateb da ym Mangor a Llanelli a bod aelodau'r gynulleidfa wedi dod yn 么l i weld y sioe eto.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

"Mae鈥檔 ddarn dawns am sut mae natur yn canfod ei ffordd - gallwch ddod o hyd i farddoniaeth yn unrhyw le.

"Rydyn ni'n defnyddio baglau o fewn symudiadau felly mae'ch anabledd yn dod yn b诺er gwych oherwydd bod y grand jet茅 - y naid uchel mewn bale - yn cael ei berfformio gyda baglau a'r dawnsiwr yn hongian yn yr awyr.

"Fyddai hynny ddim yn bosib heb faglau. Mae鈥檔 dangos anableddau mewn ffordd gadarnhaol."

Dywedodd hefyd bod G诺yl Undod yn "bwysig iawn" a bod angen mwy ddigwyddiadau o'r fath.

"Mae鈥檙 诺yl hon yn dod 芒 pherfformwyr ag anableddau a heb anableddau at ei gilydd ac aelodau'r gynulleidfa. Ac mae gennym ni i gyd rywbeth pwysig i'w rannu."

Roedd g诺yl eleni yn cynnwys 85 o ddigwyddiadau dros naw diwrnod, efo theatrau cwmni o dros y byd yn cymryd rhan.

Pynciau cysylltiedig