大象传媒

Rhybudd i drigolion wedi digwyddiad cemegol yn Y Barri

DowFfynhonnell y llun, Jon Darke
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed llefarydd ar ran ffatri Dow bod y sefyllfa bellach o dan reolaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De a'r Gwasanaeth T芒n yn rhybuddio trigolion yn Ninas Powys, Penarth a Sili (Sully) i gau eu drysau a ffenestri wedi "gollyngiad cemegol" yn ffatri Dow yn Y Barri gerllaw.

Mae'r ffatri a arferai gael ei hadnabod fel ffatri Dow Corning yn cynhyrchu silicon.

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio 芒'r digwyddiad ond dywedodd llefarydd ar ran cwmni Dow yn hwyr brynhawn Sadwrn bod "y sefyllfa o dan reolaeth a bod Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru wedi gadael y safle".

Ychwanegodd llefarydd y bydd y cwmni yn ymchwilio i'r digwyddiad fel nad yw'n digwydd eto.

Dywed yr heddlu eu bod yn annog trigolion i gau drysau a ffenestri er mwyn sicrhau eu diogelwch ac maen nhw'n diolch i bobl am eu hamynedd.

Mae'r ffatri wedi bod yn cynhyrchu silicon ers 1952 ac mae oddeutu 630 o bobl yn gweithio yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio 芒'r sefyllfa yn y ffatri

Pynciau cysylltiedig