大象传媒

Cyhuddo dyn o lofruddio dyn arall yng Ngorseinon

Kelvin EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Kelvin Evans, 64, ei gludo i'r ysbyty ar 么l ymosodiad mewn gwesty ym mis Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Abertawe wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 64 oed yng Ngorseinon.

Cafodd Kelvin Evans ei gludo i'r ysbyty ar 么l ymosodiad ar 26 Mai yng Ngwesty'r Orsaf.

Bu farw Mr Evans, o Orseinon, yn yr ysbyty.

Mae Christopher Cooper, 39 oed, wedi ei gyhuddo o'i lofruddio.

Mae teulu Mr Evans wedi rhoi teyrnged i 鈥渇ab, brawd, ewythr a ffrind hyfryd, cariadus a doniol鈥.

Fe ddywedon nhw eu bod yn 鈥渃eisio dygymod鈥 芒鈥檙 sefyllfa.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn "ddiolchgar i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad" ac y bydd teulu Mr Evans "yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol".

Maen nhw'n parhau i apelio am wybodaeth gan bobl oedd yn ardal Gwesty'r Orsaf ar y noson dan sylw.