大象传媒

Ysbyty Llwynhelyg: Gosod blodau er cof am ferch fu farw

Mabli Cariad Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Mabli Cariad Hall wedi鈥檙 gwrthdrawiad ger Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd flwyddyn yn 么l

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu merch fach wyth mis oed fu farw wedi iddi gael ei tharo gan gar y tu allan i ysbyty yn Sir Benfro, wedi gosod blodau yno er cof amdani flwyddyn wedi鈥檙 digwyddiad.

Bu farw Mabli Cariad Hall o'i hanafiadau yn Ysbyty Plant Bryste, bedwar diwrnod wedi鈥檙 gwrthdrawiad rhwng car a cherddwyr ger Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Wrth osod blodau i gofio amdani flwyddyn wedi鈥檙 digwyddiad, dywedodd ei thad-cu bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un "hir" a "llawn tristwch" i'r teulu.

Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys yn parhau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r teulu wedi gosod blodau y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg

Roedd Mabli Cariad Hall yn ei choets pan gafodd ei tharo y tu allan i brif fynedfa Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar 21 Mehefin 2023.

Derbyniodd Heddlu Dyfed Powys alwad frys am wrthdrawiad rhwng car a cherddwyr am 11:50.

Cafodd Mabli ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, cyn cael ei throsglwyddo'n ddiweddarach i Ysbyty Plant Bryste.

Bu farw ar 25 Mehefin, bedwar diwrnod ar 么l y digwyddiad, o anaf difrifol i鈥檞 hymennydd.

Dioddefodd gyrrwr y BMW gwyn a鈥檌 tarodd anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd.

Cafodd teithiwr arall yn y car a cherddwr arall a darwyd eu rhyddhau o鈥檙 ysbyty hefyd.

Cafodd cwest ei agor a鈥檌 ohirio fis Gorffennaf y llynedd tra bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Mabli ar 25 Mehefin 2023, bedwar diwrnod ar 么l y digwyddiad

Wrth osod blodau y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg ddydd Gwener, union flwyddyn wedi鈥檙 gwrthdrawiad, dywedodd tad-cu Mabli, Paul Sambrook: "Dyma鈥檙 unig le o鈥檔 i鈥檔 dymuno bod.

"Mae鈥檔 teimlo鈥檔 addas iawn i fod yma heddiw i gofio am Mabli ond hefyd i gwrdd ag aelodau o staff yr ysbyty a diolch iddyn nhw unwaith eto am bopeth wnaethon nhw i fod o gymorth i Mabli, a phopeth maen nhw wedi gwneud oddi ar hynny i fod o gymorth i ni fel teulu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paul Sambrook, tad-cu Mabli

"Ychwanegodd: "Ni 'di bod trwy brofiad creulon iawn. Ni 'di gweld pethau, gwneud pethau o'n i fyth wedi dychmygu gweld na gwneud.

"Mae wedi bod yn flwyddyn hir, yn flwyddyn llawn tristwch, ond ar yr un pryd... mae e hefyd wedi bod yn flwyddyn sydd wedi dangos i ni faint o bobl garedig sydd yn y byd.

"Ry'n ni鈥檔 ddiolchgar am bob cymorth a charedigrwydd ni 'di cael wrth gymaint o bobl ac eto mae'n gyfle i ddweud diolch wrth rhai o鈥檙 bobl 'ma heddiw ac i'r bobl sydd wedi bod mor garedig a dod 芒 theganau a blodau i鈥檙 goeden.

"Mae yna gymysgedd o bethau chwerw ond prydferth hefyd mewn ffordd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tad Mabli, Rob Hall, yn gosod blodau ddydd Gwener ger lleoliad ei marwolaeth flwyddyn ynghynt

Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal y tu fewn i鈥檙 ysbyty hefyd ar gyfer y teulu yn gynnar nos Wener.

Fe fydd yn gyfle, yn 么l y Tad Liam Bradley - un o dri chaplan sy'n cymryd rhan - i aelodau o gymuned yr ysbyty gefnogi'r teulu "wrth i'w galar barhau" ac "anrhydeddu'r babi Mabli".

"Yn y 12 mis diwethaf, mae enw Mabli yn codi mewn sgyrsiau 'Y'ch chi'n cofio pan ddigwyddodd hynny? Tybed sut mae'r teulu erbyn hyn?'"

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod ymchwiliad i鈥檙 digwyddiad yn parhau.

Ychwanegodd: "Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi鈥檙 teulu. Does dim arestiadau wedi eu gwneud."

Dywedodd Paul Sambrook, bod yr "heddlu yn gwneud eu hymchwiliadau ac mae鈥檔 rhaid i ni barchu鈥檙 broses maen nhw鈥檔 mynd trwyddo - dyw e ddim yn rywbeth rhwydd i wneud, dwi鈥檔 si诺r".

"Mae yna rwystredigaeth, wrth gwrs - mae鈥檔 teimlo fel blwyddyn hir a ddim yr atebion i gyd gyda ni, ond yr un pryd, mae鈥檔 rhaid i ni fod yn amyneddgar.

"Does dim dewis gyda ni - rhaid i bethau gymryd eu cwrs."

Pynciau cysylltiedig