大象传媒

Craig yr Undeb: Craig bwysicaf Cymru?

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 darn yma yn addas i siaradwyr newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Craig yr Undeb ar lan llyn Padarn

Ar yr hen brif ffordd rhwng Llanberis a Chaernarfon, mae craig sy鈥檔 bwysig iawn i hanes Cymru.

Dros 150 o flynyddoedd yn 么l, roedd chwarelwyr Dyffryn Peris yn cyfarfod wrth ymyl y graig.

Yma, roedden nhw'n trafod yr amodau gwaith gwael yn gyfrinachol.

Tyfodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru allan o鈥檙 cyfarfodydd cyfrinachol hyn. Dechreuodd yr Undeb ym mis Ebrill 1874.

Dyma ychydig o鈥檙 hanes.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gofeb ar y graig heddiw

Chwarelwyr eisiau Undeb

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o chwarelwyr Dyffryn Peris. Roedd y chwarelwyr yma yn gweithio yn chwarel Dinorwig

Roedd chwarelwyr Dyffryn Peris oedd yn gweithio yn chwareli Dinorwig a Glyn-Rhonwy eisiau cyflog ac amodau teg gan y perchnogion.

Ond doedd perchnogion y chwareli llechi ddim yn gadael i'r gweithwyr ymuno ag undeb.

Un tro yn yr 1870au, fe wnaeth 110 o chwarelwyr Glyn-Rhonwy ddweud eu bod yn Undebwyr.

Cawson nhw eu taflu o鈥檙 chwarel gan y perchennog, Capten Wallace Cragg.

Ond ar 么l tair wythnos, sylweddolodd Capten Cragg ei fod yn colli busnes felly fe ddaeth y gweithwyr yn 么l.

Doedd perchnogion chwareli Dyffryn Peris ddim eisiau i fwy o chwarelwyr ymuno ag Undebau Llafur.

Felly fe wnaeth Assheton Smith, perchennog stad y Faenol a chwarel Dinorwig wahardd cyfarfodydd ar ei dir.

Sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Logo Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

O鈥檙 diwedd, ar Ebrill 27 1874, yn nhafarn The Queen鈥檚 Head yng Nghaernarfon, cafodd pwyllgor ei ffurfio.

Yma, cafodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ei sefydlu am y tro cyntaf.

Roedd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn gwarchod hawliau holl chwarelwyr yr ardal, nid dim ond chwarelwyr Dyffryn Peris.

Roedd yn gyfle i chwarelwyr Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog i ymuno gyda鈥檙 Undeb hefyd. Mewn undeb mae nerth!

Ar 么l i鈥檙 chwarelwyr sefydlu鈥檙 Undeb, aethon nhw i ddathlu ger Craig yr Undeb.

Roedden nhw wedi treulio oriau maith yn trafod sefydlu'r undeb yn y llecyn yma.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyfr Rheolau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Craig sy'n rhan o hanes

Roedd Craig yr Undeb yn lle pwysig i鈥檙 chwarelwyr am flynyddoedd wedyn.

Yn ystod streic gan chwarelwyr Dinorwig yn 1885-1886, roedd y chwarelwyr yn cyfarfod yma eto.

Roedd tua 6,000 o bobl yn un cyfarfod ym mis Chwefror 1886.

Mae'n llecyn tawel heddiw ond mae wedi chwarae rhan fawr yn hanes yr undebau llafur yng ngogledd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o lywyddion Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru rhwng 1908-1929

Geirfa

prif ffordd / main road

craig / rock

chwarel / quarry

chwareli / quarries

llechi / slate

chwarelwyr / quarrymen

cyhoeddi / declare

amodau gwaith / working conditions

annheg / unfair

cyfrinachol / in secret

cyflog / pay

perchnogion / owners

ymuno/ join

undebau llafur / trade unions

oriau maith / long hours

sefydlu / establish

parhau / continue

llecyn / a small place or spot

gwahardd / ban

gwarchod hawliau / protect rights

Undebwyr / Unionists

Mewn undeb mae nerth / in unity there's strength