Bachgen, 16, yn yr ysbyty ar 么l cael ei gicio gan geffyl
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 16 oed yn yr ysbyty ar 么l cael ei gicio gan geffyl yn ystod arwerthiant.
Cafodd y bachgen ei drin am anafiadau ar gaeau'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Sul.
Fe ddigwyddodd ar drydydd diwrnod Gwerthiant yr Hydref y Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig.
Cafodd y bachgen ei gludo mewn hofrennydd i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd yn dilyn y digwyddiad.
Y gred yw ei fod bellach mewn cyflwr sefydlog.
Mewn datganiad, roedd y Gymdeithas a'r arwerthwyr, McCartney's, am ddiolch i bawb wnaeth roi cymorth yn ystod y digwyddiad.