大象传媒

Dynes yn y llys wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab

Karolina ZurawskaFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Karolina Zurawska yn cael ei thywys i'r llys fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth ei mab yn Abertawe wedi ymddangos yn y llys ddydd Llun.

Mae Karolina Zurawska, 41, wedi鈥檌 chyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad 芒 marwolaeth Alexander Zurawski, chwech oed, mewn eiddo ar Glos Cwm Du, Gendros ddydd Iau.

Mae hi hefyd wedi鈥檌 chyhuddo o geisio llofruddio mewn cysylltiad 芒 digwyddiad yn ymwneud 芒 dyn 67 oed yn gynharach ar yr un dyddiad.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Abertawe, fe wnaeth Ms Zurawska ond siarad i gadarnhau ei henw, ei chyfeiriad a'i dyddiad geni.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Alexander Zurawski, 6, ei ddisgrifio gan ei deulu fel plentyn "anhygoel"

Dywed Heddlu'r De nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad ac yn y gorffennol maen nhw wedi dweud bod Ms Zurawska ac Alexander yn byw gyda'i gilydd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Chris Truscott bod y digwyddiad wedi bod yn "un trallodus" ac wedi bod yn "sioc anferth i'r gymuned leol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Karolina Zurawska wedi'i chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed yn Abertawe

Mewn teyrnged i Alexander, dywedodd ei deulu ei fod yn "blentyn caredig iawn" a'i fod "wrth ei fodd yn chwarae gyda鈥檌 chwaer fach a鈥檌 gi, Daisy".

鈥淩oedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg," meddai'r deyrnged.

鈥淩oedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau ac yn siarad Saesneg a Phwyleg.

鈥淩oedd Alexander bob amser yn barod i helpu. Bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau... Roedd yn anhygoel."