大象传媒

Taith Oasis i ddechrau yng Nghaerdydd

OasisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y sioe yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf fydd y tro cyntaf i'r band chwarae yn fyw ers 2009

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Oasis yn dechrau eu taith yn 2025 gyda dwy sioe yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Fore Mawrth fe wnaeth y band gyhoeddi eu bod yn ail-ffurfio ac yn bwriadu chwarae yn fyw am y tro cyntaf ers 2009.

Roedd cryn drafod wedi bod ar-lein wedi i'r brodyr - Noel a Liam Gallagher - awgrymu dros y penwythnos bod cyhoeddiad mawr ar y gweill.

Bydd y daith yn dechrau gyda dwy noson yng Nghaerdydd ar 4 a 5 Gorffennaf, cyn symud ymlaen i Fanceinion, Llundain, Caeredin a Dulyn.

'Bore cyffrous iawn'

Mae鈥檙 cerddor Mei Emrys wedi bod yn ddilynwr brwd o'r band ers y 1990au, a bu'n ymateb i'r newyddion ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

"Mae hwn yn gyhoeddiad na fyddai llawer o bobl o genhedlaeth benodol fel fi, sydd wedi tyfu i fyny yn y 90au, erioed wedi meddwl y byddai鈥檔 digwydd," meddai.

"Ar y llaw arall, pan ti鈥檔 cymryd cam yn 么l ac yn meddwl am y peth, doedd Noel a Liam ddim yn cyd-dynnu鈥檔 dda iawn beth bynnag pan oedd y band ar ei anterth.

"Felly, yn y pen draw, os oedd cynnig gyda digon o arian, roedd yn anochel y byddai鈥檙 daith yn digwydd.

"Ond i fi, a miloedd os nad miliynau o gefnogwyr eraill yn y 90au, mae鈥檔 fore cyffrous iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth Mei Gwynedd, sydd wedi bod yn aelod o fandiau fel Sibrydion a Big Leaves, wedi rhannu llwyfan gyda Oasis yn Stadiwm Principality yn 2009.

Roedd yn aelod o fand Y Peth gyda Rhys Ifans ar y pryd.

"Oedd o鈥檔 brofiad hollol anhygoel. Ddaru nhw chwarae yn y Motorpoint ychydig o flynyddoedd ynghynt 鈥 i feddwl yn 么l a gweld faint wnaethon nhw dyfu yn ystod yr adeg honno," meddai ar Dros Frecwast.

"Oedd o鈥檔 wych gweld nhw yno, ac wedyn cael chwarae efo nhw yn y stadiwm a mynd ar noson allan gyda nhw 鈥 oedd o鈥檔 noson gr锚t!"

"Nhw oedd band ein cenhedlaeth ni 鈥 mae rhai o鈥檜 caneuon nhw鈥檔 fytholwyrdd."

"O ran cefnogwyr a ffurfio bandiau 鈥 oedd 'na gymaint o fandiau yn cael eu ffurfio ar ddiwedd y 90au oedd eisiau bod a swnio fel Oasis," ychwanegodd Mei Emrys.

'Rhoi Caerdydd ar y map'

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: 鈥淔el llawer o fy nghenhedlaeth i, rwy鈥檔 hynod gyffrous bod Oasis yn ail-ffurfio, ac mae'r newyddion bod eu taith yn cychwyn yng Nghaerdydd yn geirios ar y cyfan.

"Yn dilyn sioeau diweddar gan Taylor Swift, Foo Fighters, Beyonce a llu o enwau mawr eraill, efallai y bydd rhai鈥檔 dweud fod Caerdydd yn prysur ddod yn gyrchfan 鈥榬haid ei chwarae鈥 i s锚r cerddoriaeth mwyaf y byd.

鈥淏ydd yr awyrgylch drydanol yn Stadiwm Principality a鈥檙 cyffiniau eisoes yn gyfarwydd i filiynau, wrth i鈥檙 gigs enfawr hyn roi Caerdydd yn gadarn ar y map a denu ymwelwyr o bob rhan o鈥檙 byd.

"Gyda ffigurau gan UK Music yn dangos bod twristiaid cerddoriaeth sy鈥檔 ymweld 芒 Chymru wedi gwario 拢276 miliwn y llynedd, maen nhw hefyd yn rhoi hwb gwirioneddol i economi鈥檙 ddinas, gan danlinellu ein prif gynllun i wneud Caerdydd yn ddinas o safon fyd-eang ar gyfer cerddoriaeth.鈥

Disgrifiad,

Mae Oasis yn bwriadu cyhoeddi rhagor o ddyddiadau yn Ewrop a thu hwnt hefyd.

Dywedodd y band mewn datganiad byr: "Mae'r gynau wedi tawelu. Mae pethau wedi disgyn i'w lle. Mae'r aros drosodd. Dewch i weld, ni fydd hyn yn cael ei ddarlledu."

Fe wnaeth Noel a Liam rannu'r un neges ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd: "Dyma ni, mae hyn yn digwydd."

Fe fydd tocynnau ar gyfer y sioeau yn y DU ac Iwerddon yn mynd ar werth am 09:00 fore Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig