Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pam bod camera yn recordio banana yn pydru ar Yr Wyddfa?
- Awdur, Si么n Tootill
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i annog cerddwyr i beidio 芒 gadael sbwriel organig fel bananas ar fynydd uchaf Cymru.
Croen banana ydy un o'r mathau o sbwriel mwyaf cyffredin sydd wedi ei weld ar lethrau a llwybrau鈥檙 Wyddfa.
Mae bananas yn cymryd mwy o amser i bydru na鈥檙 disgwyl, yn enwedig ar dir uchel.
Felly mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gosod camera arbennig mewn lleoliad cyfrinachol ar gopa鈥檙 Wyddfa i recordio croen banana yn pydru dros amser.
Enw鈥檙 prosiect newydd yma ydy 'Bananacam鈥 ac mae鈥檔 rhan o gynllun ehangach 鈥榊r Wyddfa ddi-blastig鈥.
Alec Young yw un o鈥檙 swyddogion sy鈥檔 gweithio ar y cynllun.
鈥淏ananas yw鈥檙 pedwerydd math o sbwriel sy鈥檔 cael ei ddarganfod fwyaf ar yr Wyddfa," dywedodd.
"Mae yna ddiffyg addysg o gwmpas gwastraff organig. Mae pobl yn meddwl fod o鈥檔 hollol iawn i daflu nhw ar y mynydd.
"Ond mae鈥檔 cymryd misoedd neu hirach i fananas bydru, yn enwedig ar dir uchel."
Dywedodd mai prif nod y prosiect yw gwneud i bobl feddwl ddwywaith am sut y maen nhw'n paratoi i ddringo'r mynydd.
Dywedodd y bydd modd gwylio鈥檙 banana yn pydru ar-lein.
"Pwynt yr arbrawf ydy darganfod pa mor hir mae鈥檔 gallu cymryd i groen banana bydru ar ben mynydd uchaf Cymru," ychwanegodd.
Eglurodd os yw gwastraff yn cronni, mae'n gallu cael effaith ar pH y pridd, allai yn ei dro gael effaith ar fywyd gwyllt.
Mae鈥檙 Wyddfa yn fynydd poblogaidd i ddringwyr, gyda dros 600,000 o bobl yn cyrraedd y copa y flwyddyn ddiwethaf.
Ond mae鈥檙 nifer uchel o ymwelwyr yn gallu golygu llawer o sbwriel ar y llethrau.
'Bananas yn broblem'
Fel un o wirfoddolwyr casglu sbwriel y parc, mae Gareth Iwan yn gyfarwydd ag effeithiau sbwriel ar yr ardal ac yn deall yr angen am yr ymgyrch newydd yma.
鈥淒wi鈥檔 rhan o gr诺p sy鈥檔 cerdded i fyny llwybrau鈥檙 Wyddfa a phigo sbwriel i fyny.
"'Dan ni鈥檔 gweld pob math o sbwriel. Ond mae pethau fel bananas yn sicr yn broblem.
"'Dan i 'di pigo heddiw o Lwybr Rhyd ddu tri bag 鈥 ac mae鈥檙 bagiau gwyrdd yn rai mawr.
"Dyma ydy鈥檙 flwyddyn gyntaf i mi 'neud hyn a dwi 'di gweld lot o sbwriel."
Mae cynllun newydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol i leihau鈥檙 holl sbwriel ar yr Wyddfa yn denu cefnogaeth rhai o ddringwyr y mynydd, fel Andrew Harris a鈥檌 deulu.
Dywedodd Andrew: 鈥淔i鈥檔 credu bod unrhyw beth sy鈥檔 lleihau sbwriel mewn lle mor hardd yn beth da i ddweud y gwir.
"O鈥檔 i ddim yn deall bod pethau fel bananas neu orennau yn gallu aros ar y llawr mor hir. A beth bynnag, dwi鈥檔 credu dyle pob un fod yn gyfrifol am eu sbwriel eu hunain a mynd a fe gartre' gyda nhw."
'Gweld nhw ym mhob man'
Mae Keith Jones, dringwr arall yn cytuno.
Dywedodd: 鈥淒wi ddim yn cytuno efo pobl sy鈥檔 taflu croen banana.
"Mae 鈥榥a ormod o sbwriel ar y mynydd beth bynnag. Mae croen banana yn un peth ond lasa fo fod yn boteli plastig, caniau... dwi鈥檔 gweld nhw ym mhob man.鈥
Bydd y camera sy鈥檔 ffilmio鈥檙 croen banana wrth iddo bydru ar gopa鈥檙 Wyddfa yn fyw i'w wylio ar-lein o ddydd Llun ymlaen.