大象传媒

Noson t芒n gwyllt yn 'anodd iawn' i g诺n tywys a'u perchnogion

Zena Cooper a'i chi tywys, MunchFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Zena Cooper a'i chi tywys, Munch

  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy noson t芒n gwyllt mae elusen Guide Dogs eisiau codi ymwybyddiaeth o effaith t芒n gwyllt ar g诺n tywys a'u perchnogion.

Mae'r elusen yn dweud bod nifer o berchnogion yn gorfod newid sut maen nhw'n byw gan nad yw'r c诺n yn awyddus i fynd allan, a bod hynny'n gallu amharu ar eu hannibyniaeth.

Dywedodd Zena Cooper, sy'n defnyddio ci tywys, fod y cyfnod rhwng Tachwedd ac Ionawr yn gallu bod yn "anodd iawn" a bod y t芒n gwyllt yn gallu effeithio ar waith y ci.

Mae Cymdeithas T芒n Gwyllt Prydain yn dweud eu bod yn annog defnydd cyfrifol o d芒n gwyllt ac yn galw ar bobl i ystyried anghenion eu cymdogion.

Ar raglen Bore Sul ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Ms Cooper o Rydaman bod diffyg rhybudd am d芒n gwyllt yn gallu bod yn broblem.

"Ma' fe'n rili anodd. Mae'n neis fod pawb yn dathlu wrth gwrs, ond mae'n golygu fod rhaid i ni newid y ffordd 'yn ni'n byw rhwng Tachwedd a Ionawr achos ma' nhw trwy'r amser," meddai.

"Pan ni'n mynd mas, os oes t芒n gwyllt yn mynd off ni'n cael bach o ofnau. So fe [Munch] yn crynu a chuddio ond ma' fe'n neidio a stopio. Ma' fe'n tynnu sylw o'r hyn ma' fe fod yn 'neud.

"Bydde fe'n neis cael bach o rybudd... bach o restrictions o ran amser ac ati.

"Os y'n ni'n gwybod pryd fydd e'n digwydd, chi'n gallu paratoi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Munch yn ymddeol yn fuan, ond mae Zena yn bwriadu ei gadw fel anifail anwes

Cafodd Zena Cooper ei geni gyda syndrom Marfan - cyflwr sy'n golygu ei bod hi bron yn ddall.

Fe wnaeth hi gadw ei chyflwr yn gyfrinachol am ddegawdau, ond yn 2016 cafodd ei pharu gyda Minster, neu Munch ei chi tywys.

Mae Munch ar fin ymddeol o'i waith gyda Zena, ond mae hi'n bwriadu ei gadw fel anifail anwes.

"Fi'n lwcus 'da Munch achos ma' fe bron yn 10 oed nawr, dyw e ddim cweit mor excitable ag o'dd e, ond pan oedd e'n ifanc doedd e ddim yn gwybod be' oedd yn mynd 'mlaen gyda'r t芒n gwyllt," meddai.

"Ma' lot o anifeiliaid a pobl ddim yn eu hoffi. Weithiau wrth gerdded i'r dref ni'n gallu cael t芒n gwyllt yn mynd off pedair gwaith, ma' fe'n gallu bod yn lot i ddelio gydag e."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Amanda yn dweud bod ei chi tywys, Eddie yn cael ei ddychryn yn ofnadwy gan d芒n gwyllt

Un arall sy'n ei chael hi'n anodd yr adeg hon o'r flwyddyn yw Amanda o Gei Connah yn Sir y Fflint, sydd 芒 nam ar ei golwg.

Dywedodd y bydd yn rhaid iddi hi aros adref bob nos am gyfnod er mwyn amddiffyn ei chi tywys, Eddie rhag effaith y t芒n gwyllt.

"Maen nhw'n cael effaith ofnadwy ar Eddie. Mae o'n crio, mae o'n amlwg yn aflonydd ac yn aml yn dringo drosta i. 'Da ni wedi trio bob math o bethau i roi cysur iddo.

"Mae o'n gwrthod bwyta, gwrthod yfed ac yn cau mynd i'r toiled."

Ychwanegodd fod y t芒n gwyllt yn cael effaith fawr arni hi hefyd, gan nad yw hi'n gallu mynd allan heb Eddie.

Mae Eddie bellach wedi cael meddyginiaeth i helpu iddo beidio cynhyrfu gymaint yn ystod y cyfnod yma, ac er bod Amanda yn dweud ei fod yn rywfaint o help, dydy hynny heb ddatrys y broblem yn llwyr.

'Dim c诺n arferol yw rhain'

Dywedodd elusen Guide Dogs fod tua chwarter perchnogion c诺n tywys yn dweud bod eu hanifeiliaid yn cael eu gofidio gan d芒n gwyllt.

Yn 么l Tim Stafford, un o gyfarwyddwyr yr elusen, maen nhw'n gweithion galed i baratoi c诺n tywys ar gyfer synau o'r fath ond mae'n amhosib rhagweld yr effaith ar wahanol g诺n.

"Dim c诺n teuluol arferol yw'r rhain... i berchennog ci tywys, mae unrhyw drafferthion fel hyn yn cael effaith gwirioneddol."

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld rhagor o gyfyngiadau o ran gwerthiant t芒n gwyllt, byddai defnyddio t芒n gwyllt tawel, neu fynd i ddigwyddiadau swyddogol yn hytrach na'u tanio adref yn cael mwy o effaith.

Dywedodd Cymdeithas T芒n Gwyllt Prydain mewn datganiad eu bod yn deall pryderon perchnogion c诺n tywys, ond ei bod hi'n bwysig ystyried effaith unrhyw gyfyngiadau pellach ar werthiant t芒n gwyllt ar ddefnydd anghyfreithlon o d芒n gwyllt.

Fe esboniodd y gymdeithas y byddan nhw o blaid gweld yr isafswm oedran i allu prynu t芒n gwyllt yn codi o 18 i 21, yn ogystal 芒 mwy o ymdrech i fynd i'r afael 芒 gwerthiant t芒n gwyllt anghyfreithlon.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r llywodraeth, ac wedi llunio cynllun 10 cam er mwyn ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol."

Pynciau cysylltiedig