大象传媒

Sir Benfro yn gwahodd y Brifwyl i'r ardal yn 2026

EisteddfodFfynhonnell y llun, ALED LLYWELYN
  • Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno yn unfrydol i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Lantwd yn 2026.

Yn ystod cyfarfod ddydd Iau, cafodd cynnig gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol i wahodd yr 诺yl i Sir Benfro ei basio'n unfrydol.

Yn 么l dogfen a gafodd ei hystyried gan aelodau'r cabinet, mae'r safle dan sylw, sydd ar y ffin rhwng Sir Benfro a Cheredigion, yn cwrdd 芒 nifer o feini prawf yr Eisteddfod.

Mae 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

'Eisteddfod ar gyfer Sir Benfro gyfan'

Yn ystod y drafodaeth, fe ddywedodd rhai aelodau o鈥檙 cabinet bod unigolion o ganolbarth a de Penfro wedi cysylltu gyda nhw i fynegi pryder am y lleoliad.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Jon Harvey bod nifer o safleoedd eraill wedi cael eu hystyried yng nghanol a de鈥檙 sir, ond mai safle Llantwd oedd yr un mwyaf addas.

鈥淔yddwn ni byth yn medru plesio pawb o ran y lleoliad. Ry鈥檔 ni wedi bod trwy broses o graffu ar safleoedd trwy gydol y sir a hon ddaeth i鈥檙 brig," meddai.

"Fe fydd hon yn Eisteddfod ar gyfer Sir Benfro gyfan ac fe fyddwn ni'n gweithio yn galed gyda鈥檙 holl gymunedau ymhob rhan o Sir Benfro i wneud e鈥檔 ddigwyddiad cynhwysol iawn.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arweinydd y cyngor, John Harvey, bod nifer o safleoedd arall wedi cael eu hystyried cyn penderfynu ar Lantwd

Yn 么l y cynghorydd dros ardal Llantwd, John Davies, mae hi鈥檔 naturiol bod yna drafodaeth am leoliad y safle.

鈥淐hi o hyd yn cael y dadleuon hyn pan mae鈥檙 Eisteddfod yn digwydd mewn unrhyw sir, yn naturiol.

"Fe wnaed hi鈥檔 glir yn y cyfarfod cabinet bod yna ymroddiad llwyr i anwesu鈥檙 holl sir.

"Mae yna ysgolion Cymraeg newydd yn agor ym Mhenfro ac mae gyda chi Caer Elen yn Hwlffordd, heb anghofio Ysgol Bro Preseli.

"Mae hi鈥檔 amlwg mae hon yw鈥檙 safle mwyaf deniadol, ac un fydd gobeithio mewn tywydd gwell, yn gwenu ar y Gymraeg yn 2026."

Ychwanegodd fod "hyn yn newyddion rhyfeddol o dda i Sir Benfro".

Mae'r adroddiad a drafodwyd gan y cyngor yn nodi bod yna "risg ariannol" wrth lwyfannu'r Eisteddfod, ond yn dweud y byddai cynnal y brifwyl yn gadael "gwaddol sylweddol" ac yn cael "effaith sylweddol ar yr economi leol".

Mae'r hefyd yn nodi nad oes arian wedi ei glustnodi yng nghoffrau'r cyngor ar gyfer cynnal yr Eisteddfod, a bydd angen chwilio am noddwyr allanol er mwyn lleihau'r baich ar goffrau'r awdurdod.

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod "yn ymwybodol o鈥檙 drafodaeth yng nghabinet Cyngor Sir Benfro ar hyn o bryd".