Prif weithredwr Galeri yn gadael wedi achos stelcian
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon wedi gadael ei swydd, bedwar mis wedi iddo gael ei atal o'i waith ar 么l pledio'n euog i stelcian.
Derbyniodd Steffan Thomas orchymyn atal (restraining order) ym mis Ebrill ar 么l pledio'n euog i gyhuddiad o stelcian heb godi ofn, braw na gofid.
Ar 么l ei ddedfrydu cadarnhaodd bwrdd Galeri Caernarfon Cyf eu bod yn cynnal ymchwiliad, a bod Thomas wedi'i atal o'i waith ar gyflog llawn.
Mewn datganiad i 大象传媒 Cymru Fyw cadarnhaodd Galeri fod ei gyflogaeth wedi dod i ben ddydd Gwener.
Roedd wedi bod yn y swydd ers Ebrill 2023.
Dywedodd Galeri mewn datganiad: "Mae cyflogaeth Steffan Thomas fel Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf wedi dod i ben, ar y 9fed o Awst 2024.
"Bydd y broses o benodi Prif Weithredwr newydd Galeri Caernarfon Cyf yn cychwyn yn fuan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill