Teyrnged i gwpl ifanc fu farw yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd cwpl ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.
Bu farw Katie Worrell, 25, ac Adam Muskett, 27, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd rhwng Llanddowror a Ros-goch ddydd Iau, 13 Mehefin.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai Jaguar du a Ford Fiesta du oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Mewn datganiad gan ei theulu, cafodd Katie Worrell ei disgrifio fel "merch, chwaer, wyres, nith a chyfnither oedd yn cael ei charu'n fawr".
"Mi wnaeth hi fyw bywyd i'r eithaf, yn mwynhau teithio ac wedi cyflawni cymaint mewn amser mor fyr."
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
Ychwanegon nhw fod "Katie yn garedig, yn ofalgar a phrydferth ac ni fydd ein byd byth yr un fath hebddi".
Dywed teulu Adam ei fod yn "caru ei fywyd, ei ffrindiau, Dinbych-y-pysgod, p锚l-droed, ac roedd mewn cariad gyda Katie."
"Rydym wedi torri'n calonnau a byddwn yn falch ohono am byth".
'G诺r bonheddig ymhob ffordd'
Mewn teyrnged iddo ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd Clwb P锚l-droed Dinbych-y-pysgod fod Adam yn "诺r bonheddig ymhob ffordd".
"Roedd ganddo barch ei gyd-chwaraewyr, a gwrthwynebwyr hefyd."
Dywedodd y clwb fod Adam a Katie yn "ddau o'r bobl neisiaf y gallwch chi fyth eu cyfarfod", ac y bydd pawb o'r clwb yn eu colli'n fawr.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad neu oedd yn teithio ar yr A477 ar y pryd i gysylltu 芒 nhw.