大象传媒

Pam fod mwy o ddolffiniaid i'w gweld ar lannau'r gogledd?

DolffinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae sawl dolffin wedi cael eu gweld ar hyd arfordir y gogledd yn ystod yr wythnosau diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae dolffiniaid yn nofio'n agos at y glannau wedi dod yn rhywbeth cyffredin iawn yn y gogledd.

Mae sawl adroddiad fod dolffiniaid yn mentro'n agosach at lan y m么r ac yn ymddangos yn agos iawn at gychod.

Mae adroddiadau fod dolffiniaid wedi'u gweld ym Mae Caernarfon, Ynys Seiriol ac oddi ar Ynys M么n ger Rhosneigr.

Pam felly fod gweld y dolffiniaid hyn yn rhywbeth fwy cyffredin na'r arfer?

Disgrifiad,

Os bydd y tywydd braf yn parhau, fe allai hyn fod yn olygfa gyffredin ym mis Awst

Yn 么l yr Yr Athro Peter GH Evans, arbenigwr dolffiniaid a chyfarwyddwr y Sea Watch Foundation, mae'r tywydd braf yn sicr yn ffactor.

"Mae tri math o ddolffiniaid yn yr ardal. Y Dolffin Cyffredin, Dolffin Risso a'r Dolffin Trwynbwl.

"Mae'n beth cyffredin i weld dolffiniaid ond mae sawl un cael cael eu gweld yn nes at y lan yn ddiweddar.

"Mae diwedd mis Gorffennaf i fewn i fis Awst yn gyfnod prysur i'r dair rhywogaeth yng nghanol y m么r, ond mae'n beth anarferol i'w gweld nhw mor agos at y lan," meddai.

Ffynhonnell y llun, Sea Watch Foundation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Athro Peter Evans yn arbenigwr ar ddolffiniaid ac yn gyfarwyddwr y Sea Watch Foundation

Un o'r rhai welodd y dolffiniaid yn nofio ym Mae Caernarfon oedd Llio Non.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mynd 芒 Tomi, ci ffrind am dro o'n i, a chlywed sblashis mawr yn dod o rwla a throi rownd i weld dolffin yn dawnsio yng ngheg afon Seiont cyn nofio i gyfeiriad y pontydd i Sir F么n.

"Dwi mor falch nad o'n i'n gwisgo headphones," meddai.

Roedd Sion Edwards ar y d诺r ei hun pan welodd o'r dolffiniaid.

"Roeddwn ar y gwch yn pysgota allan o Rosneigr.

"Dolffiniaid yn heidio mecryll at ei gilydd i fewn Fae Caethle er mwyn bwydo arnynt.

"Roedd o'n gyfle i gael seibiant ar y pysgota a gwylio鈥檙 pros wrthi," meddai.

Pynciau cysylltiedig