Rhybudd am garthion yn y môr yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae nofwyr yn Ninbych-y-pysgod wedi cael eu rhybuddio y gallen nhw fod yn nofio mewn dŵr brwnt.
Mae ymchwiliad wedi cychwyn i ddigwyddiad yn ymwneud â llygredd yn y môr yn Sir Benfro, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd CNC bod prif bibell wedi byrstio – pibell sy'n tynnu carthion i'r system garthffosiaeth gyhoeddus - gan arwain at garthion yn mynd i mewn i Afon Ritec, sy’n llifo i’r môr ar Draeth y De Dinbych-y-pysgod.
Dywedon nhw fod yna risg posib o lygredd ar y traeth hwnnw, Traeth y Castell a Thraeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod yn ogystal â thraeth cyfagos Penalun.
Dywedodd Dŵr Cymru bod y bibell wedi cael ei thrwsio erbyn nos Fawrth.
Un oedd wedi ei siomi gyda'r sefyllfa oedd Chase Blont, 18 o Gwmbrân.
Dywedodd: "Ni wedi bod yma ers bore 'ma, oedd 'da ni paddle boards a phopeth allan.
"Wedyn daeth yr RNLI allan gyda baneri coch a dweud am y llygredd."
Aeth ymlaen i ddweud mai ond am wythnos y maen nhw yn Ninbych-y-pysgod "a dyma un o’r diwrnodau oedd yn edrych yn dda so ni’n eithaf crac.
"Mae’n drist gweld llawer o bobl yn methu mynd mewn i’r môr."
Dywedodd Chase ei bod yn "bwysig bod cwmnïau yn cymryd cyfrifoldeb am y digwyddiad."
Un arall oedd ar y traeth oedd Ellis Harries, 18 o Bont-y-pŵl.
Dywedodd ei fod yn "eithaf siomedig".
"Dwi wastad yn clywed am hyn ar y newyddion, nawr fi’n deall y broblem.
"Gwnaethom ni weld yr arwyddion, i fod yn onest mae’n eithaf gwael bod dim ond arwyddion ar y traeth achos ni wedi teithio’n bell."
Dywed Andrea Winterton o CNC: "Mae Dŵr Cymru wedi rhoi gwybod i ni am bibell ymgodol sydd wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod sydd wedi arwain at garthffosiaeth yn mynd i mewn i Afon Rhydeg.
"Mae’r bibell ymgodol wedi’i hynysu felly ni ddylai fod unrhyw lygredd pellach i’r afon o’r bibell.
"Oherwydd y potensial i’r llygredd effeithio ar y dyfroedd ymdrochi i lawr yr afon, rydym wedi datgan sefyllfa annormal ac wedi hysbysu Cyngor Sir Penfro a fydd yn gosod arwyddion ar y traethau i rybuddio pobl o’r risg llygredd posib."
Dywedodd Dŵr Cymru ddydd Mawrth bod criwiau'n "atgyweirio pibell sydd wedi ei difrodi ger Heol Clickett, Dinbych-y-pysgod, wedi i ni ddarganfod ei bod wedi byrstio ddoe.
Yn ôl llefarydd roedd y gwaith atgyweirio hwnnw "yn heriol" a bod y criwiau yn rhoi ymdrech fawr i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn saff.
"Er bod y gwaith yn cymryd yn hirach na'r disgwyl, fe gafodd y bibell ei hadnabod yn fuan ddoe felly does dim mwy o lygredd wedi gollwng tra bod y gwaith atgyweirio yn digwydd."
Fe ychwanegon nhw eu bod yn "rheoli llif yr ardal ac nid oes effaith ar ddefnydd gwastraff dŵr yn ardal Dinbych-y-pysgod".
Mewn datganiad pellach nos Fawrth fe ddywedodd y cwmni bod y gwaith atgyweirio "wedi ei gwblhau yn llwyddiannus" a'u bod yn diolch pobl leol "am eu hamynedd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023