大象传媒

Hwyliwr ifanc o Wynedd yn 'gwireddu breuddwyd'

Arwen a MattFfynhonnell y llun, Sweetbay Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma tro'r cyntaf i Arwen gystadlu ym Mhencampwriaeth hwylio iau y byd

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 18 oed o Rosgadfan wedi gwireddu breuddwyd wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth Hwylio Iau y Byd.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar Lyn Garda yng ngogledd yr Eidal, gyda'r cystadlu yn cychwyn ddydd Llun ac yn dod i ben ddydd Gwener.

Dyma'r tro cyntaf i Arwen Fflur gystadlu yn y bencampwriaeth - lle bydd timau o 25 o wahanol wledydd yn cymryd rhan.

I Arwen, dyma benllanw blynyddoedd o hyfforddi, ac mae'n awyddus i barhau gyda'i gyrfa yn y gobaith o gyrraedd y Gemau Olympaidd ryw ddydd.

O Lyn Tegid i Lyn Garda

Fe wnaeth Arwen ddechrau hwylio pan oedd ond yn chwech oed ym Mhorth Dinorwig gan gwblhau ei chystadleuaeth gyntaf yn blentyn ar Lyn Tegid.

"Dyw fy nheulu ddim yn hwylio, ond roedd ffrind i'r teulu yn, ac felly 'wnes i drio fe allan a'i fwynhau'n fawr ac wedyn parhau gyda'r gamp," meddai.

Erbyn hyn, mae Arwen yn hyfforddi bob penwythnos am ryw dair neu bedair awr y dydd.

Aeth ymlaen i ddweud fod yr holl flynyddoedd o hyfforddi wedi talu ar ei ganfed pan gafodd wybod ei bod wedi cael lle yn y t卯m ar gyfer cystadleuaeth hwylio iau'r byd.

"Ro' ni mor hapus pan enillon ni'r gystadleuaeth ryngwladol a chael ein dewis ar gyfer y digwyddiad yma.

"Roedd yn teimlo'n anhygoel gwybod mod i'n dod fan hyn, ro' ni wedi gweithio mor galed, a dyma beth wyt ti'n gweithio tuag ato yn ystod dy yrfa yn y categori yma."

Dywedodd fod cyrraedd y gystadleuaeth yma "wastad wedi bod yn freuddwyd" iddi.

Ffynhonnell y llun, Sweetbay photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Arwen yn cystadlu gyda Matt yn y categori cwch 420

Bydd Arwen yn cystadlu yng nghategori 420 sef "cwch i ddau berson, gyda dwy hwyl a barcud arno, mae'n eithaf mawr, 4.2 metr," esboniodd.

Aeth ymlaen i s么n mwy am y gystadleuaeth: "Bydd yn cynnwys 25 o gychod a byddwn yn cystadlu ar draws pum diwrnod. Dwy ras y dydd ac un ras ar y diwrnod olaf".

Er ei bod wrth ei bodd yn hwylio, dywedodd fod 'na heriau yn perthyn i'r gamp.

"Y peth anoddaf am y gamp yw'r straen sy'n dod gyda thrio gwneud dy orau ac i gyrraedd lle wyt ti eisiau bod," meddai.

Er mai dyma tro'r cyntaf i Arwen gystadlu yn y gystadleuaeth hon, a'r tro olaf oherwydd ei hoed, dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at barhau i hyfforddi ac i gyrraedd y Gemau Olympaidd rhyw ddydd.

"Dwi'n gobeithio yn y dyfodol gallu symud ymlaen i'r 470 sef maint cwch Olympaidd, parhau gyda fy hyfforddi a gobeithio mynd i'r Gemau Olympaidd ryw ddydd," meddai.

Pynciau cysylltiedig