Rhieni 'wedi blino' 芒 sylwadau ansensitif am Syndrom Down
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni'n galw ar y cyhoedd a gweithwyr iechyd i gael gwell dealltwriaeth o'r iaith maen nhw'n ei ddefnyddio wrth gyfeirio at bobl 芒 Syndrom Down.
Mae gan Rhydian a Jamie Fitter o Aberystwyth fab blwydd oed, Celyn, sydd 芒 Syndrom Down.
Maen nhw'n dweud eu bod wedi blino ar glywed pobl yn defnyddio鈥檙 derminoleg anghywir.
Mae Hydref yn fis codi ymwybyddiaeth Syndrom Down, ac mae 'na alwadau ar i bobl fod yn fwy gofalus a sensitif.
Mae'r Gymdeithas Syndrom Down yn dweud ei bod yn bwysig i bobl roi鈥檙 person yn gyntaf, yn hytrach na鈥檙 cyflwr.
Dywedodd Rhydian Fitter: "Mae ambell berson sy'n defnyddio iaith, er enghraifft, yn galw fe'n 'Downs baby' - dweud 'Downs babies are so cute' neu bethau fel 'na.
"Stereoteips, a rhoi'r Syndrom Down o flaen fe fel person, fel unigolyn. Mae'n blino ni.
鈥淣i hefyd wedi cael pobl yn dod i fyny i鈥檙 pram a dweud bod e ddim yn edrych fel ei fod efo Syndrom Down. Mae hwnna鈥檔 rili weindio fi lan.鈥
Doedd y cwpl ddim yn ymwybodol fod gan Celyn Syndrom Down gan nad oedden nhw wedi cymryd y prawf sgrinio pan oedd Jamie yn feichiog.
Dywedodd Mrs Fitter: 鈥淏ydde fe ddim wedi newid yr outcome i ni oherwydd byddwn ni wedi cadw fe anyway oherwydd babi bach ni yw e."
Cafodd y ddau brofiad 鈥済wych鈥 yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
鈥淥'dd y midwives a doctors yn rili positif gyda ni, o'dd e'n ystafell hapus,鈥 meddai Mrs Fitter.
Ychwanegodd Mr Fitter: 鈥'Dan ni鈥檔 lwcus, roedd un o鈥檙 bydwragedd ar yr uned efo plentyn sydd 芒 Syndrom Down ac mae hi wedi addysgu pawb, o'dd nhw gyd wedi gweld Celyn fel Celyn."
Ond ers gadael yr ysbyty dyw eu profiad gyda phob gweithiwr iechyd ddim wedi bod yn bositif.
Dywedodd Mrs Fitter: 鈥淲ythnos diwethaf, roedd nyrs preifat wedi dweud wrthon ni 鈥so apart from Down Syndrome and his heart, what else is wrong with him?'"
"O'n i'n meddwl, does dim byd yn bod gyda fe - dyw Down's Syndrome ddim yn rhywbeth sy'n bod.
"O'n i bach yn taken aback, mewn sioc bod hi wedi dweud hynna.
"O'dd hynna'n reit upsetting i ni, achos o'dd hwn yn rhywun oedden ni'n trustio."
Dyw鈥檙 cwpl ddim ar eu pen eu hunain chwaith gyda鈥檜 rhwystredigaethau.
Mae gan Gwennol Haf o Gaerdydd fab deg oed - Pwyll - sydd 芒 Syndrom Down.
鈥淵n sicr mae pobl yn defnyddio terminoleg anghywir pan rydyn ni鈥檔 siarad 芒 phobl ni ddim yn 'nabod. Maen nhw'n dweud 'Downs child'.
"Fel teulu da ni鈥檔 anghofio bod Pwyll efo Down Syndrome - jyst plentyn ni yw e.
鈥淢ae鈥檔 bwysig fel teulu i ni addysgu nhw beth yw鈥檙 iaith gywir ac i bobl wrando a thrio dweud y termau iawn.
鈥淵n aml dyw pobl ddim yn golygu dim byd cas gyda fe, dydyn nhw ddim eisiau bod yn negatif neu angharedig.
"Ond mae'n bwysig, os oes rhywun yn dweud wrthyn nhw beth yw'r terminoleg cywir, bo' nhw'n trial cofio beth yw'r geiriau ddylai gael eu defnyddio."
Mae鈥檙 Gymdeithas Syndrom Down yn cynnig cymorth i鈥檙 cyhoedd a gweithwyr gofal am yr iaith a therminoleg gywir.
Mae Julian Hallett yn un o brif hyfforddwyr y gymdeithas, sydd wedi darparu hyfforddiant Tell it Right i feddygon a bydwragedd y GIG.
鈥淩ydym yn dysgu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddweud bod siawns y gall y babi gael Syndrom Down, nid risg," meddai.
鈥淎c os ydyn nhw'n cyflwyno'r newyddion y gallai babi fod 芒 Syndrom Down, i siarad yn bositif amdano.
Dywedodd Mr Hallett ei bod yn bwysig i bobl roi'r person yn gyntaf yn hytrach na'r cyflwr.
Mae Mr Fitter yn cytuno, gan ddweud mai gwneud ymdrech i ddeall yw'r peth pwysig.
"Y wers bwysig i bawb ydy jest i fod yn barod ac yn fodlon i ddysgu," meddai.
"Peidiwch poeni'n ormodol os chi ddim yn cael popeth yn berffaith bob tro, ond ceisiwch ddysgu.
"Meddyliwch am bobl fel unigolion yn gyntaf, a byddwch yn agored i glywed rhieni neu bobl sydd efo Syndrom Down yn cywiro chi.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021