大象传媒

Statws gwarchodedig i'r Gymraeg o fewn Heddlu'r Gogledd

Jordan Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Jordan Jones, ni fyddai modd plismona鈥檙 gymuned yn effeithiol heb y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 iaith Gymraeg wedi derbyn statws gwarchodedig o fewn Heddlu Gogledd Cymru, gyda鈥檙 nod o gryfhau鈥檙 ddarpariaeth dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn 么l y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, sy'n dysgu鈥檙 iaith, mae鈥檙 Gymraeg yn flaenoriaeth iddi, ac mae angen sicrhau bod "arweinwyr y dyfodol" yn rhugl.

Ar hyn o bryd mae o leiaf 40% o staff y llu yn medru sgwrsio yn y Gymraeg, a 36% yn rhugl.

Yn 么l swyddogion sy鈥檔 gweithio mewn cymunedau, mae鈥檙 cyfle i ddioddefwyr gyflwyno tystiolaeth yn eu mamiaith yn hollbwysig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar hyn o bryd mae o leiaf 40% o staff y llu yn medru sgwrsio yn y Gymraeg, a 36% yn rhugl

Yn byw a gweithio yng Nghaernarfon mae Jordan Jones, un o swyddogion heddlu鈥檙 gogledd, yn dweud na fyddai modd plismona鈥檙 gymuned yn effeithiol heb y Gymraeg.

"Mae Caernarfon yn lle unigryw - gei di drafferth yma feindio rhywun sydd ddim yn siarad Cymraeg," meddai.

"'Dan ni鈥檔 delio efo lot o achosion sydd yn eithaf creulon ac yn ofnadwy o emosiynol, felly dwi鈥檔 meddwl fod hi鈥檔 bwysig fod aelodau鈥檙 cyhoedd yn teimlo鈥檔 gyfforddus pan ma' nhw鈥檔 siarad efo ni am rheiny.

"Dwi鈥檓 yn meddwl 'swn i鈥檔 gallu gwneud y swydd dwi鈥檔 'neud yma heb bo' fi鈥檔 gallu siarad Cymraeg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy'r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman ddim eisiau gweithwyr newydd fod "dan anfantais"

Yn 么l Heddlu鈥檙 Gogledd mae gosod statws gwarchodedig dros y Gymraeg am sicrhau nad oes unrhyw un o fewn y gweithlu dan anfantais.

Tra bod gan y Gymraeg eisoes yr un statws 芒鈥檙 Saesneg, mae dynodi鈥檙 statws newydd yn gyfle i sicrhau tegwch cyfleoedd, yn 么l y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman.

Esboniodd: 鈥淒wi eisiau i weithwyr newydd allu sefyll eu harholiadau mynediad drwy鈥檙 Gymraeg a Saesneg felly does 'na'm rhaid iddyn nhw wedyn gyfieithu o un iaith i鈥檙 llall.

鈥淒ydyn nhw ddim wedyn dan anfantais - mae hynny鈥檔 rhan ohono.

鈥淥nd rhan arall o hynny ydy sicrhau bod gennym ni arweinwyr yn y dyfodol sy鈥檔 iaith gyntaf Gymraeg.

"Felly yn bendant 'dan ni am sicrhau nad ydy unrhyw un o鈥檔 systemau o gynnig dyrchafiadau ddim yn heriol i siaradwyr Cymraeg."

Cyfle i newid agweddau

Er na fydd mwy o gyllid ar gyfer y prosiect, mae鈥檙 llu yn dweud mai cyfle i newid agweddau a systemau yw hyn, er mwyn cefnogi鈥檙 gweithlu Cymraeg.

Mae'r Prif Gwnstabl - sy鈥檔 wreiddiol o ganolbarth Lloegr - hefyd yn dysgu鈥檙 iaith.

"Dwi wir yn mwynhau, mae鈥檔 dda iawn," meddai.

"Mae鈥檔 iaith brydferth a dwi wir yn teimlo mor falch o fyw yng Nghymru, o weithio mewn gweithlu Cymraeg a chymuned Gymraeg.

"Mae pobl wir yn helpu, yn cymryd amser a dwi mor werthfawrogol."

Erbyn hyn mae鈥檔 rhaid i bob swydd o fewn y llu gael rhyw lefel o ddealltwriaeth o鈥檙 Gymraeg, a Heddlu鈥檙 Gogledd yn mynnu fod cefnogaeth a llwybrau dysgu i un rhywun sydd am ddatblygu hynny.