Cymru v Twrci: G锚m gyntaf Bellamy fel rheolwr

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Craig Bellamy ei benodi yn rheolwr Cymru yng Ngorffennaf
  • Awdur, Bethan Clement
  • Swydd, Gohebydd Chwaraeon 大象传媒 Cymru

Nos Wener bydd Craig Bellamy yn cael gwireddu ei freuddwyd fawr o reoli t卯m dynion Cymru wrth iddyn nhw wynebu Twrci yn eu g锚m gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni.

Cafodd Bellamy, sy鈥檔 45 oed ac yn gyn-gapten ar ei wlad, ei benodi鈥檔 rheolwr Cymru ar gytundeb pedair blynedd ym mis Gorffennaf, gan olynu Rob Page.

Fe enillodd 78 o gapiau yn chwarae yn y crys coch. Nos Wener cawn weld Cymru o dan Bellamy y rheolwr am y tro cyntaf.

Twrci yw鈥檙 gwrthwynebwyr 鈥 t卯m a gyrhaeddodd rownd wyth olaf Pencampwriaeth Ewro 2024.

Does dim dwywaith bod yna bwysau ar ysgwyddau Bellamy - gyda Chymru wedi ennill ond un o'u chwe g锚m diwethaf.

鈥淢ae pwysau鈥檔 fraint," meddai, "ac ry鈥檔 ni鈥檔 mynnu hynny ohonom ni ein hunain.

鈥淒yw pwysau byth yn broblem i mi 鈥 fe fyddai yna rhywbeth o鈥檌 le pe na bai yna bwysau. Dwi鈥檔 mwynhau鈥檙 ochr yna.鈥

Balchder Bellamy

Sgoriodd Bellamy 19 o goliau rhyngwladol yn ystod ei yrfa lewyrchus. Bu'n chwarae hefyd ar y lefel uchaf gyda chlybiau Manchester City, Lerpwl a Newcastle United.

Ond chafodd e fyth y cyfle i gynrychioli Cymru mewn prif gystadleuaeth, gan ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol lai na thair blynedd cyn i Gymru gystadlu鈥檔 Ewro 2016.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Bellamy yn is-reolwr i Vincent Kompany yn Burley cyn ei benodiad fel rheolwr Cymru

Wedi bod yn is-reolwr i Vincent Kompany - sydd bellach gyda Bayern Munich - gyda chlybiau Burnley ac Anderlecht, mae Bellamy wedi dychwelyd i鈥檞 wlad enedigol, gyda鈥檙 bwriad o geisio arwain Cymru i Gwpan Y Byd.

Ond cyn i rowndiau rhagbrofol y gystadleuaeth honno ddechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, mae鈥檔 rhaid creu argraff yn eu grwp B4 yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Twrci, Montenegro a Gwlad yr I芒 - cystadleuaeth all brofi鈥檔 allweddol wrth geisio sicrhau lle mewn rowndiau terfynol, diolch i gemau ail-gyfle.

Mae'r g锚m gyntaf ar y daith honno nos Wener ac mae Bellamy yn cyfaddef y bydd yna emosiynau pan fydd yn sefyll ar ochr y cae.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n mynd i fod yn foment fydd yn llawn balchder i mi," meddai Bellamy

"Dwi wedi gweithio'n galed iawn i gyrraedd y pwynt yma," meddai, wrth siarad gyda'r wasg am y tro olaf cyn y g锚m.

"Mae'n mynd i fod yn foment fydd yn llawn balchder i mi... fe fydd yna emosiynau... ond mae gen i ddyletswyddau ac unwaith y bydd y chwiban cyntaf yna'n cael ei chwythu fe fydd fy meddwl yn llwyr ar y g锚m, ar wneud y penderfyniadau gorau.

"Dwi'n mynd i fwynhau y profiad yma. Dwi'n difaru na wnes i fwynhau mwy o fy ngyrfa. Dwi'n deall pwysigrwydd y swydd, beth mae'n ei olygu i gynrychioli eich gwlad. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle ond dwi hefyd am ei fwynhau."

Cyffro chwaraewyr a chefnogwyr

Ddydd Llun yr wythnos hon oedd ei ddiwrnod cyntaf gyda鈥檌 chwaraewyr, ond mae Bellamy鈥檔 barod wedi creu agraff 鈥 Connor Roberts a Harry Wilson yn ddau sydd wedi s么n am eu cyffro o fod yn rhan o garfan Bellamy a鈥檙 steil newydd o chwarae y gwelwn o dan y cyn-chwaraewr.

Nid y chwaraewyr yn unig sy'n edrych ymlaen at y cyfnod newydd yma i'r t卯m cenedlaethol o dan Bellamy.

Disgrifiad o'r llun, Heledd Ifans a Gwenllian Evans, cefnogwyr Cymru

"Dwi'n gyffrous iawn," meddai'r gefnogwraig Heledd Ifans o Gaerdydd. "Dwi ychydig bach yn nerfus, ond yn edrych ymlaen i weld beth fydd dylanwad Bellamy ar y ffordd y byddwn ni'n chwarae."

Mae Gwenllian Evans, hefyd o'r brifddinas, yn cytuno.

"Fi鈥檔 credu 'na'th Page llawer o gamgymeriadau erbyn y diwedd. Mae'r chwaraewyr angen newid, a dwi鈥檔 meddwl y bydd 鈥榥a ffordd gwahanol o chwarae, mwy ymosodol o dan Bellamy.

"Mae ganddo lawer o wybodaeth tactegol felly dwi'n gobeithio y bydd e'n dod 芒 llawer i'r t卯m."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Dan James yn un o sawl chwaraewr na sydd ar gael i Bellamy yn erbyn Twrci

Fe fydd Cymru heb nifer o鈥檜 chwaraewyr ymosodol oherwydd anafiadau 鈥 mae David Brooks o glwb Bournemouth, Daniel James o Leeds United a Rabbi Matondo o Rangers yn absennol. Mae chwaraewyr Ipswich Town Nathan Broadhead a Wes Burns hefyd wedi鈥檜 hanafu.

Yn sgil yr anafiadau, mae chwaraewr Caerdydd Rubin Colwill a chwaraewr canol cae 18 oed Leeds, Charlie Crew, wedi鈥檜 hychwanegu i'r garfan.

Mae dau chwaraewr sydd eto i ennill cap ar y lefel yma yn y garfan 鈥 golwr Leeds Karl Darlow a鈥檙 amddifynnwr Owen Beck sydd ar fenthyg gyda Blackburn Rovers o Lerpwl.

Cymru yn erbyn Twrci

Dim ond un o鈥檜 pum g锚m diwethaf yn erbyn Twrci mae Cymru wedi鈥檌 hennill - o 2 i ddim yn Ewro 2020. Colli dwy a dwy g锚m gyfartal oedd canlyniad y gweddill.

Serch hynny, dydy Twrci heb lwyddo i guro Cymru yn eu pedair g锚m oddi cartref diwethaf nhw, gan sgorio dim ond un g么l yn erbyn y crysau cochion.

Ond mae goliau wedi bod yn brin i Gymru hefyd - dydyn nhw ddim wedi sgorio yn eu tair g锚m diwethaf, ac fe gollon nhw eu g锚m mwya' diweddar o bedair i ddim yn erbyn Slofacia ym mis Mehefin eleni.

Dydy Twrci ddim wedi ennill un o鈥檜 pum g锚m diwethaf i ffwrdd o gartref 鈥 dwy g锚m gyfartal a thair colled, tra bo鈥 record gartre Cymru yn un i鈥檞 chanmol - ennill 17, 10 g锚m gyfartal a cholli dim ond tair o鈥檜 30 g锚m o flaen eu torf eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cymru 1 - 1 Twrci, 21 Tachwedd, 2023

Dim ond dwy o鈥檜 11 g锚m diwethaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd mae Twrci wedi鈥檜 colli - maen nhw wedi ennill pump a chael pedair g锚m gyfartal - ond fe gollon nhw eu g锚m mwyaf diweddar ym mis Medi 2022 yn erbyn Ynysoedd Ffaroe, sy鈥檔 rhif 125 ar restr detholion y byd.

Mae Harry Wilson wedi bod yn rhan o bum g么l yn ei saith g锚m diwethaf i Gymru 鈥 dwy g么l, a chreu tair 鈥 gydag un o鈥檙 rheiny yn erbyn Twrci fis Tachwedd y llynedd.

Mae Cenk Tosun wedi sgorio tair g么l yn ei bedair g锚m ddiwethaf i Dwrci, a phob un fel eilydd. Mae e wedi rhwydo 21 o goliau dros ei wlad gydag ond Hakan Sukur (51), Burak Yilmaz (31) a Tuncay Sanli (22) yn sgorio mwy nag e.