大象传媒

'Rheolau etifeddiaeth i newid, er ymateb y byd amaeth'

TractorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna anghytuno i ba raddau y bydd y newidiadau treth etifeddiaeth yn effeithio ar ffermydd teuluol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cydnabod y bydd "rhai ffermwyr yng Nghymru ddim yn hapus" gyda newidiadau treth etifeddiaeth y Gyllideb, ond dywedodd na fydd y mesurau'n cael eu tynnu'n 么l.

Mae cynlluniau i ddileu'r eithriad mewn cysylltiad 芒 thir ffermio rhag talu treth etifeddiaeth wedi eu beirniadu gan y gymuned amaethyddol, sy'n dweud bod y cyhoeddiad wedi eu "bradychu".

Dan gynlluniau'r Canghellor, o'r flwyddyn nesaf bydd treth etifeddiaeth o 20% yn berthnasol i werth asedau y tu hwnt i'r trothwy o 拢1m.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens wedi amddiffyn y cynlluniau ar raglen 大象传媒 Politics Wales, gan ddadlau bod "llawer o bobl heb unrhyw beth yn agos at 拢1m pan maen nhw'n marw".

Dywedodd y bydd "tri chwarter y ffermwyr ddim yn cael eu heffeithio - dim ond ffermwyr mwyaf cyfoethog y Deyrnas Unedig ac rydym yn gwybod bod mwyafrif llethol ein ffermwyr yng Nghymru 芒 ffermydd bach".

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd yna effaith sylweddol ar ffermwyr yng Nghymru."

Mae hi wedi bob yn bosib trosglwyddo ffermydd o genhedlaeth i genhedlaeth heb orfod talu treth etifeddiaeth fel yn achos asedau eraill.

Mae cyhoeddiad y Canghellor, Rachel Reeves, yn y Gyllideb ddydd Mercher yn golygu na fydd 拢1m cyntaf unrhyw yst芒d yn cael ei drethu, ond fe fydd yn rhaid talu treth o 20%, dros gyfnod o 10 mlynedd, ar unrhyw swm ar ben hynny.

Ond oherwydd eithriadau o ran tai a pharau priod yn trosglwyddo asedau i ddisgynyddion uniongyrchol, fe allai olygu bod 拢2m yn cael ei eithrio cyn gorfod talu'r dreth.

Dywed undeb amaeth NFU Cymru y bydd y newidiadau'n nid yn unig yn achosi "niwed parhaol i ffermio yng Nghymru a chwalu ffermydd teuluol, ond hefyd yn gadael ffermwyr heb yr arian, hyder ac ysgogiad i fuddsoddi yn nyfodol eu busnes".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Jo Stevens fod y Gyllideb "wedi gorfod gofyn i'r bobl 芒'r ysgwyddau mwyaf llydan i dalu ychydig yn fwy"

Yn 么l Llywodraeth y DU ni fydd yn rhaid talu treth etifedditaeth yn achos 75% o ffermydd, ond mae undebau amaeth yn deud y bydd y newidiadau'n "dod 芒 mwyafrif ffermydd teuluol Cymru o fewn terfynau'r dreth yma".

Does gan y Trysorlys ddim amcangyfrif o'r effaith ar ffermydd yng Nghymru ond maen nhw'n rhagweld y bydd 2,000 o ystadau ar draws y DU yn cael eu heffeithio o 2026-27 ymlaen, gyda tua 500 o'r rheiny'n hawlio rhyddhad eiddo amaethyddol.

'Adfer y sylfeini'

"Roedd hon yn Gyllideb ble roedd rhaid adfer y sylfeini," meddai Jo Stevens.

"Roedd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd.

"Rydym wedi gorfod gofyn i'r bobl 芒'r ysgwyddau mwyaf llydan i dalu ychydig yn fwy fel ein bod 芒'r arian hwnnw i leihau rhestrau aros, buddsoddi yn ein hysgolion a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel."

Pan ofynnwyd iddi a fyddai'r ymateb yn gorfodi'r llywodraeth i ailystyried, atebodd Stevens: "Fe gafodd ei gyhoeddi yn y Gyllideb yr wythnos yma, a dyna fydd yn digwydd."

Mae'r cyfweliad llawn gyda Jo Stevens ar raglen Politics Wales ar 大象传媒 One Wales am 10:00 ddydd Sul, ac yna ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig