Carcharu dyn am oes am drywanu ei ffrind i farwolaeth

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd yn rhaid i Paul Jenkins dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau

Mae dyn 39 oed o Abertawe wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio ei ffrind yn ei gartref.

Fe wnaeth Paul Jenkins drywanu David Green, 61, i farwolaeth yng nghartref Mr Green yn Orchard Court yng nghanol Abertawe fis Ebrill.

Roedd Jenkins eisoes wedi pledio'n euog i lofruddiaeth Mr Green mewn gwrandawiad blaenorol.

Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

'Lefel y trais yn eithafol'

Ar 9 Ebrill eleni fe gerddodd Jenkins i mewn i Orsaf Heddlu Canol Abertawe a dweud ei fod wedi trywanu ei ffrind sawl gwaith, a'i fod yn credu ei fod wedi marw.

Pan aeth swyddogion draw i gartref Mr Green cafodd ei ganfod yn farw, wedi dioddef sawl anaf o ganlyniad i gael ei drywanu.

Fe wnaeth y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes o Heddlu'r De ei ddisgrifio fel "llofruddiaeth ddideimlad o ddyn eiddil a bregus".

"Cafodd David Green ei lofruddio yn ei gartref gan rywun roedd yn ymddiried ynddo, ac yn ystyried fel ffrind," meddai.

"Roedd lefel y trais a ddangoswyd gan Paul Jenkins yn eithafol, ac mae'n ei ddangos fel unigolyn peryglus."