大象传媒

Y Cyfnod ar werth eto wedi 'hiraeth' pobl Y Bala

Disgrifiad,

Argraffu papur Y Cyfnod am y tro cyntaf ers pedair blynedd

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf ers pedair blynedd mae papur newydd Y Cyfnod yn 么l ar werth yn y siopau.

Cafodd y Cyfnod ei sefydlu bron i 90 o flynyddoedd yn 么l, ac fe ddaeth yn un o hanfodion wythnosol teuluoedd ardal Y Bala a'r cylch.

Roedd y papur yn arfer gwerthu tua 1,000 o gop茂au bob wythnos.

Oherwydd y pandemig nid oes rhifyn wedi bod o'r Cyfnod - na'i chwaer bapur The Corwen Times - ers pedair blynedd.

Cwmni cymunedol Pum Plwy Penllyn sydd wedi denu arian grant i gyhoeddi 12 rhifyn Cymraeg o'r papur newydd, a bydd yr arbrawf o dri mis yn gweld a oes digon o awch atgyfodi'r Cyfnod yn y tymor hir.

Un sydd wedi gweithio ar y rhifyn cyntaf ydy Lowri Rees-Roberts sy'n Swyddog Prosiect yng Nghanolfan Henblas yn Y Bala.

Dywedodd bod y papur yn "bwysig ofnadwy" i'r ardal a bod "cryn dipyn o bobl wedi bod yn gofyn iddo fo ddod yn 么l" ers iddo orffen.

"Mae o 'di gorffen ers cyn y cyfnod clo... a da ni'n clywed gan gymaint o bobl am eu hiraeth am y papur a bod nhw'm yn gwybod be' sy'n mynd ymlaen yn yr ardal.

"Dyna 'nath ni feddwl pam sa ni'n dod 芒 fo'n 么l, fel bod nhw'n gwybod be oedd yn mynd ymlaen yn Y Bala a'r ardaloedd o gwmpas - ac mae 'na gryn edrych ymlaen yn lleol."

Ychwanegodd mai'r "gobaith ydi y bydd o'n parhau ar 么l y cynllun peilot."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lowri Rees-Roberts wedi bod yn gweithio ar y rhifyn newydd o'r papur

Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher dywedodd mai'r teimlad cyffredinol oedd bod nifer o bobl ifanc a rhai ychydig yn h欧n yn cael eu newyddion drwy'r cyfryngau cymdeithasol ond "nad oedd pobl hynach na hynny yn cael yr hanes".

"Doedden nhw ddim yn gwybod be' oedd yn mynd ymlaen yn Y Bala."

Ychwanegodd: "Rhyw 'chydig o bob dim sydd ynddo - ychydig o hanes lleol, newyddion am be' sy' ymlaen a hanes chwaraeon yr ardal.

"Mae 'na ddymuniad yn lleol hefyd i gael platfform digidol a 'dan ni'n gweithio gyda Golwg i gael gwefan Golwg 360 ar gyfer yr ardal lle bydd modd i bobl gyhoeddi straeon eu hunain yn syth."

Ffynhonnell y llun, Lowri Rees-Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tudalen flaen nesa'r Cyfnod

Fore Mercher roedd yna gynnwrf wrth i'r rhifyn cyntaf gyrraedd oddeutu 09:00.

Roedd yr 20 rhifyn cyntaf am ddim.

"Mae'r cyfan wedi bod yn reit hectic ond dwi' wedi mwynhau 'neud o," ychwanegodd Lowri Rees-Roberts.

"Mae'n rhaid dechrau meddwl r诺an am y rhifyn nesaf."

'Dibynnu ar y bobl r诺an'

Roedd 'na "fwlch go fawr ers i'r Cyfnod beidio cael ei gyhoeddi", yn 么l Huw Antur, Ysgrifennydd Pum Plwy Penllyn.

Y cwmni cymunedol sydd wedi sicrhau'r arian grant er mwyn cyhoeddi'r papur unwaith eto, a'u nod yn ehangach yw cefnogi a datblygu prosiectau yn yr ardal.

Wrth siarad yn gynharach eleni, dywedodd: "Y gobaith ydy fydd 'na barhad i'r Cyfnod a bydd o wedyn yn parhau fel rhyw fath o linyn cyswllt yn ardal Y Bala a Phenllyn, dod 芒'r newyddion a digwyddiadau, hysbysebion a straeon."

Ychwanegodd aelod arall ei fod yn "gyffrous" dechrau'r argraffu eto, ond mai yn nwylo pobl leol mae'r fenter.

Dywedodd Alwyn Jones: "Mae'n dibynnu ar bobl r诺an os fyddan nhw'n ei brynu, a dyna fydd y prawf."

Pynciau cysylltiedig