大象传媒

'Busnesau lleol yn poeni' yn sgil difrod i siop yn Llangefni

Y Lle T芒nFfynhonnell y llun, Y Lle T芒n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd pob panel ffenest ar flaen y siop eu malu, gan gynnwys y drws ffrynt

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr siop yn Ynys M么n yn dweud bod busnesau lleol yn pryderu ar 么l i ffenestri siop gael eu difrodi dros y penwythnos.

Cafodd pob panel ffenest, gan gynnwys drws ffrynt, Y Lle T芒n yn Llangefni eu malu rhwng 19:00 a 21:00 nos Sul.

Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth wedi'r digwyddiad sydd wedi achosi "difrod sylweddol" i'r busnes.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oes unrhyw un wedi'i arestio mewn cysylltiad 芒鈥檙 digwyddiad a bod eu ymholiadau yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Y Lle T芒n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gred yw bod y difrod wedi cael ei achosi rhwng 19:00 a 21:00 nos Sul

Dywedodd Gareth Williams, sy'n rhedeg y siop ar Ffordd Glanhwfa ers dros 20 mlynedd, ei fod wedi dod i wybod am y digwyddiad ar 么l derbyn galwad ff么n gan un o'i gymdogion nos Sul.

Ar 么l siarad 芒'r heddlu dros y ff么n, fe aeth Mr Williams lawr at y siop nwyddau t芒n i lanhau'r gwydr oddi ar y pafin a'r stryd.

Erbyn 09:00 fore Llun roedd o'n agor y siop fel yr arfer.

Mae Mr Williams, sy'n gyfrifol am redeg y busnes o ddydd i ddydd, wedi gosod addurniadau Calan Gaeaf ar y ffenestri i geisio cuddio'r dirfod.

Ffynhonnell y llun, Y Lle T芒n

"Dwi yma ers dros 20 mlynedd... a dwi erioed 'di cael unrhyw drafferth o gwbl," meddai.

"Mae'n dorcalonnus i ddeud y gwir i feddwl fod 'na rywun di neud y fath beth heb reswm.

"Mae'n anodd rhesymu pam fysa rhywun yn neud y fath beth i ddeud y gwir."

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl iddo gymryd tua phythefnos i adfer y difrod.

Ymateb lleol 'wedi bod yn wych'

Dywedodd Mr Williams fod y digwyddiad wedi codi pryder yn y gymuned ond fod yr ymateb yn lleol wedi bod yn "wych".

"Mae'n rhaid i mi ddweud bod y gymuned wedi bod yn wych. Mae lot fawr o bobl wedi dod mewn i gydymdeimlo efo ni a lot o bobl yn drist i glywed fod y fath beth wedi digwydd yn Llangefni.

"'Da ni wedi cael llawer iawn o bobl o'r gymuned, a hefyd pobl hefo siopau eraill eu hunain wrth gwrs sy'n pryderu fod y fath beth am ddigwydd iddyn nhw.

"'Swn i'n licio diolch i bobl Llangefni am eu cefnogaeth."

Ffynhonnell y llun, Y Lle T芒n

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru nos Lun eu bod yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.

"Ar y 13 Hydref 2024, rhwng 19:00 a 21:00, mae Y Lle T芒n, Ffordd Glanhwfa, Llangefni wedi cael ei difrodi yn sylweddol, ac mae pob panel gwydr wedi cael ei chwalu, gan gynnwys y drws ffrynt."

Mae'r llu yn galw yn benodol am gymorth unrhyw un sy'n byw yn yr ardal ac sydd 芒 lluniau CCTV preifat neu dash cam all fod o ddefnydd.