Glaw trwm i daro'r rhan fwyaf o Gymru dros nos
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl cawodydd trwm iawn o law i'r rhan helaeth o Gymru dros nos.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law sy'n dod i rym am 18:00 ddydd Mawrth.
Fe fydd yn para tan 12:00 brynhawn Mercher ac mae'n berthnasol i bob sir o Gymru oni bai am Sir Benfro ac Ynys M么n.
Fe allai'r amodau gwaethaf achosi trafferthion i yrwyr a theithwyr, llifogydd mewn mannau a thoriadau i gyflenwadau trydan.
Hyd at 20mm o law sydd i'w ddisgwyl yn y rhan fwyaf o lefydd wrth i'r glaw ledu o dde-orllewin Lloegr tua'r gogledd gyda'r nos, ond fe allai de Cymru weld hyd at 80mm o law.
Mae stormydd o daranau a mellt hefyd yn bosib ym mannau deheuol y rhybudd tywydd.