大象传媒

Clwb Rygbi Y Bala i gael gwerthu alcohol er pryderon

Clwb Rygbi Y BalaFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Y Bala
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Swyddogion Cyngor Gwynedd wnaeth argymell fod y cynllun yn cael ei gymeradwyo

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Y Bala wedi llwyddo i gael caniat芒d i werthu alcohol.

Mae hyn yn golygu fod ganddynt drwydded yn ystod gemau ym Maes y Gwyniad, Heol Tegid, gydol y tymor rygbi rhwng mis Medi a Mai o hyn ymlaen.

Roedd 14 o wrthwynebiadau gan aelodau'r cyhoedd i'r drwydded, gan ddweud eu bod yn poeni y byddai'n "creu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal".

Ond doedd gan yr heddlu, y gwasanaeth t芒n, y cynghorydd lleol, na chwaith t卯m diogelu鈥檙 cyhoedd y cyngor, ddim gwrthwynebiad i'r drwydded.

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Y Bala
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd estyniad ei agor yn 2017 er cof am y diweddar Bryan 'Yogi' Davies

Rhoddodd cyngor cymunedol y dref hefyd s锚l eu bendith i'r drwydded, ond roeddent yn gofyn gyfyngu ar yr amseroedd agor.

Roedd cais am amodau penodol oherwydd pryderon am yr effaith ar drigolion Glannau Tegid a Threm y Ffridd, sydd gerllaw i'r clwb.

Roedd pryderon hefyd gan rai cymdogion yngl欧n 芒 thrafferth parcio, a thraffig yn mynd a dod.

Nododd Heddlu Gogledd Cymru fod y clwb wedi gwerthu alcohol mewn digwyddiadau dros dro yn y gorffennol, a hynny "heb achos am bryder".

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Y Bala
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cefnogi t卯m rygbi Y Bala yn ddigwyddiad cymdeithasol, medd y cadeirydd

Wrth siarad gyda Cymru Fyw dywedodd Huw Dylan Jones, Cadeirydd Clwb Rygbi Y Bala, mai cymdeithasu oedd y prif reswm pam gafodd y gais ei roi ger bron y pwyllgor.

"Dyna oedd y prif reswm dros drio am y drwydded, achos g锚m gymdeithasol fuodd rygbi 'rioed.

"Mae o'n dod 芒 phawb at ei gilydd, y chwaraewyr a'r cefnogwyr, a chael sgwrs ar 么l y g锚m dros wydryn wedyn.

"Dyma fyddai i'n mwynhau mewn clybiau eraill fel Bethesda neu Bwllheli, sydd eisoes hefo trwydded - cael siarad hefo cyn-chwaraewyr timau eraill am gymaint gwell oedd y g锚m yn ein dyddau ni!

"Mewn ffordd oeddan ni eisiau gwella'r croeso oeddan ni'n ei gynnig i'n cefnogwyr ni ein hunain, ac i dimau eraill sy'n ymweld yma.

"'Da ni wedi uwchraddio ein cegin, yn cynnig bwyd ein hunain - felly'r cam naturiol nesa' oedd darparu bar, a r诺an 'da ni'n medru."

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Y Bala
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Huw Dylan Jones y cadeirydd, "gwella'r croeso" ydy nod y clwb

"O ran y cyfarfod, lleddfu pryderon cymdogion oedd ein bwriad ni, ac mi 'nawn ni bopeth fedrwn ni i fod yn gyfrifol o ran rhedeg y bar.

"Mi gafon ni lythyrau o gefnogaeth gan nifer o gymdogion hefyd, felly nid oedd pawb o'r cymdogion yn gwrthwynebu'r peth.

"Ma'r clwb wedi ffynnu dros y blynyddoedd diwetha', hefo rhwng 250 a 300 yn chwarae, ac hefo hynny ma' costa'n codi.

"Felly gobeithio 'neith y bar ddod 芒 'chydig o elw i fuddsoddi mewn adnoddau i'r clwb, i helpu wrth gynnig darpariaeth i bobl ifanc yr ardal ac ehangach."

Swyddogion Cyngor Gwynedd wnaeth argymell fod y cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Felly ar 么l cyfarfod trwyddedu i ystyried y cais ar ddydd Llun 11 Tachwedd, caniataodd Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog Gwynedd y cais.

Dywedodd llefarydd ar Gyngor Gwynedd: "Fe wnaeth aelodau dderbyn yr argymhelliad, a chaniat谩u y cais am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi'r Bala.

"Mi fydd y drwydded yn caniat谩u gwerthiant alcohol yn ystod gemau trwy gydol y tymor rygbi rhwng mis Medi a Mai, a'i ddefnyddio yn bennaf ar benwythnosau."

Pynciau cysylltiedig