Cofio Waldo: Bardd, gwleidydd, heddychwr
- Cyhoeddwyd
Mae 30 Medi yn nodi 120 mlynedd ers i'r bardd, heddychwr, Crynwr, cenedlaetholwr a sosialydd o Sir Benfro, Waldo Williams gael ei eni.
Roedd yn un o feirdd Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif, ac mae ei ddylanwad ar lenyddiaeth Cymru yn parhau hyd heddiw.
Mae Hefin Wyn yn arbenigwr ar waith a bywyd Waldo Williams, ac yn awdur ar y llyfr Ar Drywydd Waldo (ar Gewn Beic).
Yma, mae'n trafod cyfraniad Waldo i ddiwylliant y genedl:
Y bardd
Fel bardd ni enillodd Waldo Williams erioed naill ai goron na chadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol heb s么n am gyflawni'r dwbl dwbl. Yn wir, yr unig dro iddo gystadlu fe wnaed hynny heb yn wybod iddo.
Roedd yn awyddus i gystadlu yn 1936 yn Abergwaun pan osodwyd T欧 Ddewi fel testun y gadair. Fe gyfansoddodd awdl a gadael copi yn nwylo ei gyfaill, D.J. Williams.
Wrth i'r dyddiad cau nes谩u ni wyddai D.J. ble roedd ei gyfaill a mentrodd gael yr awdl wedi'i theipio a'i hanfon i'r gystadleuaeth. Cafodd ganmoliaeth ond cyfeiriwyd at frychau teipio. Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig yn ddiweddarach yn 1956 pan ymddangosodd y gyfrol Dail Pren. Deil y beirniaid llenyddol i'w dadansoddi.
Dengys treigl amser nad yw llawryfon eisteddfodol yn angenrheidiol i fesur hyd a lled bardd. Na chwaith rhibidir锚s o gyfrolau. Seilir mawredd Waldo ar un gyfrol o gerddi wedi'u dewis a'u dethol yn ofalus a hynny hyd yn oed o ran eu trefn. A bu rhaid wrth gryn bersw芒d cyfeillion i gael y gyfrol honno i fwcwl. Diolch am eu dyfalbarhad.
Y gwleidydd
Ond doedd mawredd y mab i ysgolfeistr ddim wedi'i gyfyngu i ddylanwad yr awen arno. Rhoddodd gynnig arni fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru mewn etholiad cyffredinol yn 1959. Gallaf dystio i hynny am fy mod, yn ddiarwybod i mi, wedi mynychu un o'i gyfarfodydd etholiadol awyr agored.
Naw mlwydd oed oeddwn i ar y pryd. Nos Sadwrn yn yr hydref oedd hi. Minne'n seiclo n么l a ml芒n oddeutu sgw芒r y Glog yn disgwyl tr锚n olaf y Cardi Bach i gyrraedd y steshion er mwyn ei rasio'r pum can llath i fy nghartref. Yn sydyn disgynnodd g诺r bychan o gerbyd bychan. Diflannodd y cerbyd.
Dechreuodd y g诺r areithio a chwifio ei freichie. Aeth i hwyl. Gosodais y beic i bwyso ar wal ac eistedd wrth ei ymyl i wrando.
Prin fy mod yn ei ddeall ond gwyddwn ei fod yn siarad yn Gymraeg. Clywn yr angerdd. Ddaeth yna neb arall o'r tai cyfagos i wrando arno. Areithiai'n danbaid fel pe bai cynulleidfa o 500 o'i flaen tra nad oedd neb yno ond myfi. A doedd gen i ddim pleidlais.
Dros swper a thrwy gryn ddyfalu deuthum i wybod mai Waldo oedd ei enw. Sefydlogwyd yr enw yn fy meddwl. Doedd Waldo ddim yn wleidydd confensiynol.
Ni fynnai rannu taflenni, cusanu babanod mewn carnifalau a phwyllgora di-ben-draw. Ni chymrodd sylw ohonof y noson honno.
Yr heddychwr
Ond fe weithredodd Waldo a hynny yn enw heddychiaeth. Gwrthwynebai gonsgripsiwn a gwrthwynebai Ryfel Corea 芒'i holl enaid. Fe'i carcharwyd ddwywaith am wrthod talu treth incwm am nad oedd am weld ei arian yn cael ei wario ar arfau rhyfel. Ond cael a chael fu hynny.
Droeon aeth i'r llys yn cario ces bychan yn barod i fynd i garchar ond droeon gohiriwyd yr achos er mwyn rhoi cyfle iddo ail-feddwl. Ildiwyd i'w ddymuniad yn y diwedd. Roedd yn benderfynol.
Cefais gyfle i deithio ar gefn beic, fel y gwn芒i Waldo, i gyfarfod 芒 phobl oedd yn ei anwylo. Un o'r rheiny oedd y Dr Padraig O'Finnachta yng ngorllewin Gweriniaeth Iwerddon. Arferai Waldo dreulio cyfnodau ar ffarm y teulu ger Dingle yn gwrando ac yn dysgu'r Wyddeleg yn ei chynefin. Yn gyfnewid am hynny bydde Waldo yn darlithio yn yr Ysgolion Haf a drefnwyd gan Padraig.
Ar y bwrdd swper un noson cofiai Padraig fel y gofynnwyd iddo beth oedd wedi creu'r argraff penna arno am Iwerddon. Roedd yna academyddion a haneswyr yno'n disgwyl ymateb dwys ynghylch chwedloniaeth neu wleidyddiaeth y wlad. Pawb yn clustfeinio'n awchus am yr ateb.
"A beth feddyliech chi oedd yr ateb?" meddai Padraig. "'Wel', medde fe'n ddidaro, 'y bara brown, y bara soda'".
Roedd gan Waldo synnwyr digrifwch ac fe beidiodd y sgwrs ddeallus.
Nid rhyfedd fod pobl y Preselau wedi ffurfio Cymdeithas Waldo er cof am ddyn y maen nhw yn ei anwylo ar sawl cyfrif. Gwerthfawrogir iddo ddod i'w plith o Hwlffordd pan oedd yn saith mlwydd oed yn 1911 a dysgu'r Gymraeg trwy chwarae gyda'i gyfeillion newydd.
Nid rhyfedd fod Cymdeithas Waldo yn 2021 wedi gwahodd eu cyd-Gymry i gofio hanner can mlynedd ers dyddiad ei farwolaeth ar Fai'r 20, trwy hongian 'deilen' ar goeden yn cynnwys un o'i linellau.
A'm dewis inne? Gan fy mod newydd weld byddin o forgrug yn croesi llawr y gegin rhaid fydd dewis llinell o'r gerdd gyntaf o'i eiddo yn y gyfrol Cerddi'r Plant, a gyhoeddodd ar y cyd ag E. Llwyd Williams:
Ble wyt ti'n mynd, forgrugyn,
Yn unig, yn unig dy fryd?
Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi yn 2021.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Mai 2016
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2017