Codi t芒l ar daith disgyblion i ysgol Gymraeg yn 'drychinebus' i'r iaith
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr ym Merthyr Tudful yn rhybuddio y bydd dechrau codi t芒l ar ddisgyblion chweched dosbarth i fynd i'r ysgol gyfun Gymraeg leol yn "drychinebus" i'r iaith.
Mae Cyngor Merthyr yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd yngl欧n 芒 newid posib i'r ddarpariaeth trafnidiaeth i ddisgyblion dros 16 oed, allai olygu rhoi'r gorau i gynnig cludiant am ddim.
Does dim rheidrwydd statudol ar yr awdurdod i gynnig trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion dros 16 oed ac mae'r ymgynghoriad yn rhan o ymdrech y cyngor i ddod o hyd i arbedion.
Mae rhieni a disgyblion yn dweud byddai hynny yn ergyd i Ysgol Gyfun Rhydywaun sy'n cynnig addysg trwy gyfrnwg y Gymraeg i bobl ifanc y sir.
Mae'r ysgol yn ardal Aberd芒r, dros y ffin yn Rhondda Cynon Taf, ac mae tua hanner y disgyblion yn teithio o fwrdeistref sirol Merthyr Tudful.
"Dwi'n credu bydd e'n cael effaith enfawr ar ysgolion yn enwedig Rhydywaun," meddai Dylan, sy'n ddisgybl 16 oed yn yr ysgol, ac yn Faer Ieuenctid Merthyr.
"Heb y chweched bydd y pobl sy'n mynd n么l i Rydywaun yn dirywio, a wedyn bydd llai o bobl yn siarad Cymraeg ym Merthyr."
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn darparu trafnidiaeth am ddim i Goleg Merthyr Tudful, yn ogystal 芒 Choleg y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont, Ysgol Gyfun Rhydywaun, Ysgol Cwm Rhymni, ac Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru.
Cyngor yn ceisio dod o hyd i arbedion
Mae'r cyngor yn dweud bod y ddarpariaeth yn costio bron i 拢97,000.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ynglyn 芒 phedwar dewis posib:
Codi t芒l llawn ar ddisgyblion am y gwasanaeth;
Cynnig gwasanaeth am ddim i Goleg Merthyr Tudful ac Ysgol Gyfun Rhydywaun yn unig;
Dileu'r gwasanaeth yn llwyr;
Cadw pethau fel ag y maen nhw.
Ofn effaith unrhyw newid
Mae'r awgrym y gallai'r gwasanaeth newid wedi codi gwrychyn rhai rhieni.
Mae Gareth Jones yn byw yn sir Merthyr, ac mae ei ferch yn cael addysg Gymraeg.
"Un o'r rhesymau wnaethon ni symud i'r ardal oedd bod 'na lwybr addysg Gymraeg i'n merch ni o'r meithrin i'r ysgol gynradd, i'r ysgol uwchradd a falle tu hwnt i hynny."
Mae'n dadlau byddai effaith colli trafnidiaeth am ddim yn niweidiol i'r Gymraeg.
"Yn yr hir dymor fi'n rhagweld llai o siaradwyr Cymraeg, llai o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg," meddai.
Mae rhai o ddisgyblion yr ysgol yn cytuno bod angen cadw'r gwasanaeth fel y mae.
Mae Olivia yn 16 oed ac yn byw ym Merthyr, ac yn dweud y byddai hi wedi ailystyried mynd i'r chweched dosbarth pe bai'n rhaid talu am drafnidiaeth.
"Dwi ddim yn si诺r os allai dalu y ffioedd bysiau ond dylen i gael yr hawl i fynd i gael addysg Gymraeg. Bydd angen gofyn i fy rhieni os ydyn ni'n cael yr arian i allu talu'r ffioedd."
Mae Iwan sy'n 17 oed o Ferthyr yn galw'r cynllun yn "syniad eitha twp".
"Dwi'n deall pam bod y cynnig yn bodoli a'r syniad tu 么l iddo fe, does dim llawer o arian yn mynd o gwmpas ar y foment.
"Ond credaf bod addysg uwch yn Gymraeg yn bwysig iawn ac mae gyda ni'r hawl i ddysgu yn y Gymraeg ar lefel uwch."
Yn 么l prif swyddog Menter Iaith Merthyr, Lis McLean, nid dyma'r tro cyntaf y mae'r cyngor wedi ystyried newid y ddarpariaeth trafnidiaeth.
Yn 2014 bu disgyblion ac ymgyrchwyr yn gorymdeithio i neuadd y sir i wrthwynebu newid tebyg i'r drefn.
"Mae'n digwydd bob ychydig o flynyddoedd. Mae wir yn warthus," meddai.
"Dwi'n cofio fy nhad i'n gorymdeithio ac yn gwneud pob math o bethau ar gyfer bws i fynd i Aberdar flynyddoedd yn 么l."
Ychwanegodd: "Dwi wedi ymladd drosto fe - dros fy mhlant i, ac mae fy mhlant i nawr yn ymladd drosto fe.
"A fydd yn rhaid i fy wyrion hefyd ymladd dros gael addysg Gymraeg?"
Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Sue Walker, fod aelodau wedi cytuno i edrych ar ddarpariaeth trafnidiaeth addysg ar 么l 16 oed "fel rhan o arbedion effeithlonrwydd y cyngor".
"Nid oes gan yr Awdurdod gyfrifoldeb statudol i ddarparu trafnidiaeth am ddim ar gyfer myfyrwyr 16 oed a h欧n sydd yn parhau 芒鈥檜 hastudiaethau mewn addysg prif ffrwd, addysg bellach ac hyfforddiant 鈥 oddi fewn neu鈥檙 tu allan i鈥檙 fwrdeistref sirol."
Ychwanegodd y llefarydd: "Yn y papur ymgynghorol, mae pedwar opsiwn y mae鈥檙 Awdurdod yn gofyn am farn amdanynt.
"Wedi i鈥檙 ymgynghoriad gau ar 19 Gorffennaf, bydd papur yn cael ei lunio a bydd aelodau yn gwneud penderfyniad terfynol.鈥