Caernarfon: Cyhuddo dyn yn dilyn digwyddiad 芒 gwn ffug
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad yn ymwneud 芒 gwn ffug yng Nghaernarfon.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o anrhefn ar L么n y Bryn yn y dref am 21:38 nos Sul.
Cafodd pump o bobl eu harestio ddydd Llun mewn cysylltiad 芒'r achos.
Mae Mark Griffiths o Lon Helen, Caernarfon bellach wedi ei gyhuddo o fod 芒 gwn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn.
Fe wnaeth Mr Griffiths ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, ble cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron y dref ar 21 Hydref.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd y byddai swyddogion yn parhau yn yr ardal am y tro.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi