大象传媒

Gething yn 'parhau 芒 fy ngwaith' er gwaethaf beirniadaeth

Vaughan Gething Ffynhonnell y llun, 大象传媒 images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog wedi mynnu ei fod yn parhau 芒 gofynion ei swydd er gwaetha'r ffrae ddiweddaraf wedi iddo ddiswyddo ysgrifennydd, a'r feirniadaeth ynghylch y rhoddion ariannol i'w ymgyrch arweinyddol.

Dywedodd Vaughan Gething bod tystiolaeth fod llun o ff么n Hannah Blythyn wedi ei yrru i wefan wnaeth gyhoeddi'r stori a arweiniodd at ei diswyddo.

Fe wnaeth gwefan Nation Cymru ddefnyddio'r llun i ddatgelu fod Mr Gething wedi dweud ei fod yn dileu negeseuon mewn gr诺p ff么n oedd yn cynnwys gweinidogion ym mis Awst 2020, yn ystod y pandemig.

Fe ymddangos o flaen pwyllgor seneddol ddydd Gwener - ddiwrnod ar 么l i'r wefan ddweud nad Ms Blythyn oedd ffynhonnell y stori.

'Cwestiynu fy niffuantrwydd yn anodd'

Dywedodd Mr Gething wrth y pwyllgor nad oedd erioed wedi awgrymu fod Ms Blythyn wedi cysylltu'n uniongyrchol 芒 Nation Cymru ond bod llun o'i ff么n hi wedi'i anfon atyn nhw.

Roedd y trafodaethau yn llawn tensiwn ar adegau wrth i Mr Gething gael ei holi ac fe gododd ei lais pan wnaeth rywun dorri ar ei draws.

"Dwi erioed wedi honni fod Hannah Blythyn wedi cysylltu'n uniongyrchol 芒 Nation Cymru," meddai.

"Dwi'n dweud yn glir, gan fy mod wedi cael cadarnhad, bod llun o'i ff么n wedi ei ddarparu i Nation Cymru."

Dywedodd Mr Gething ei fod yn "anodd i mi wrth i bobl gwestiynu fy niffuantrwydd yn gyson", a'i fod o hyd wedi ceisio gwneud "y peth cywir, hyd yn oed pan oedd yn anodd i mi yn bersonol".

"Dyna be dwi'n neud eto," meddai. "A dyma ni eto, mwy o gwestiynau a mwy o awgrymiadau, sy'n cwestiynu diffuantrwydd a gweddustra."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Vaughan Gething gwrdd 芒 phrif weinidog newydd y DU yr wythnos hon

"Mae'r llywodraeth yn parhau i fwrw ymlaen 芒'r gwaith," meddai.

Wrth nodi enghrefftiau o hynny cyfeiriodd at y rhaglen ddeddfwraiethol a gyhoeddwyd yn y Senedd yr wythnos hon, y datrysiad wedi anghydfod t芒l meddygon ysbyty a'i gyfarfod gyda phrif weinidog newydd y DU, Keir Starmer.

Cafodd y pwyllgor sy'n craffu ar waith y prif weinidog ei gynnal ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ac mae'n cynnwys cadeiryddion pwyllgorau'r senedd.

'Parhau i osgoi cwestiynau pwysig'

Yn dilyn y sesiwn, dywedodd aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd: 鈥淩oedd hi braidd yn eironig bod Vaughan Gething wedi gwneud popeth posib i osgoi craffu yn sesiwn graffu鈥檙 Prif Weinidog.

鈥淢ae鈥檙 Prif Weinidog yn parhau i osgoi cwestiynau pwysig.

"Pam wnaeth o ddileu negeseuon, yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, a pham ei fod wedi methu 芒 darparu negeseuon i ymchwiliad Covid y DU.

鈥淧o hiraf mae鈥檙 Prif Weinidog yn gwadu maint y sgandal sydd o鈥檌 amgylch, yr hiraf y bydd pobl Cymru yn dioddef oherwydd anallu ei lywodraeth Lafur.鈥

Ychwanegodd arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies: 鈥淕all y Prif Weinidog roi stop ar gwestiynau lletchwith trwy ryddhau鈥檙 dystiolaeth oedd yn sail i ddiswyddo Hannah Blythyn o鈥檌 lywodraeth.

鈥淣i ellir disgwyl i bobl Cymru ei gymryd ar ei air."